Helo! Cedron Sion ydw i o Borthmadog yng Ngogledd Cymru. Rydw i’n aelod o weithlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ers fis Chwefror eleni, yn gwasanaethu fel cyfieithydd.
Bu imi ddechrau ar fy nhaith gydag AaGIC drwy gyfrwng swydd brentisiaeth ymarfer cyfieithu (NVQ Lefel 4) a gâi ei gynnig mewn cydweithrediad â Choleg Gŵyr, Abertawe.
Yn ddiweddar rydw i wedi cael y cyfle i ddatblygu i rôl lawn amser ond rwy’n cael parhau i ddilyn yr unedau prentisiaeth yn gyfochr â’m swydd ddyddiol er mwyn cael ennill y gymhwyster maes o law. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi mwynhau gweithio fel rhan o’r Awdurdod o’r cychwyn cyntaf; mae natur y gwaith yn amrywiol, yn hynod ddiddorol ac addysgiadol.
Saith mis yn ddiweddarach ac mae gen i fwy o ddealltwriaeth o’r amryfal swyddi a phroffesiynau sydd ar gael o fewn GIG Cymru ac o derminoleg feddygol nag a fu gen i erioed. Fel cyfieithwyr o fewn AaGIC rydym mewn lle breintiedig mewn difrif i gael meithrin ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o ystod eang o feysydd ynghlwm â sawl adran megis y Gyfarwyddiaeth Nyrsio, Fferylliaeth, Deintyddiaeth a’r Adran Feddygol – sy’n gyfrifol am raglenni hyfforddiant amrywiaeth o arbenigeddau.
Rydw i wrth fy modd yn cael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a chael cyfrannu, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, tuag at ei hyrwyddo yn fewnol ac ledled y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Mae ethos iach a chalonogol yn perthyn i amgylchedd gwaith AaGIC o safbwynt y Gymraeg ac o safbwynt pobl a gwerth yr unigolyn fel rhan o uned ehangach.
Rydw i hefyd yn mwynhau ymgymryd â’r unedau prentisiaeth ac, wrth wneud hynny, yn dysgu llawer am hanfod y proffesiwn cyfieithu a’r sawl haen sy’n perthyn iddo mewn cyd-destunau moesol, ieithyddol, cyfreithiol a diwylliannol-gymdeithasol.
Fel aelod o adran gyfieithu fechan a chlòs o fewn yr Awdurdod, yn rhan o’r Tîm Gwasanaethau Cymraeg – rydw i’n falch iawn o’r gwaith gwerthfawr sy’n parhau i gael ei wneud i hybu’r iaith a’r cyfleoedd gyrfaol di-ri sydd ar gael drwy ei chyfrwng.
Edrychaf ymlaen at weld yr adran yn tyfu ac yn esblygu a bod yn dyst i’r Gymraeg yn dod yn fwyfwy rhan o fywydau staff GIG Cymru a’r boblogaeth ehangach – yn eu gweithleoedd, eu haelwydydd ac yn eu cymunedau.