Ydych chi’n hoffi astudio Cymraeg (a Saesneg!) a theimlo y byddech chi’n hoffi gwneud rhywfaint o gyfieithu fel rhan o yrfa arall?
Fe wnes i Gymraeg hyd at lefel TGAU, gwneud fy Lefel A drwy gyfrwng y Gymraeg (ond nid “Cymraeg” fel pwnc – Hanes, Addysg Grefyddol a Saesneg wnes i), a dros y blynyddoedd wedi sylweddoli mod i’n hoffi cyfieithu. Nawr mae gwneud gwaith cyfieithu penodol yn rhan o’m swydd fel Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg oddifewn GIG Cymru.
Mae modd ennill cymwysterau cyfieithu wrth wneud gyrfa arall yn Y GIG – naill ai ar lefel NVQ, a/neu drwy Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae sgiliau cyfieithu yn dod yn fwyfwy gwerthfawr yn ddyddiol oddi fewn i’r GIG, gyda’r galw am gyfieithu yn sgil Mesur Y Gymraeg yn codi yn gynyddol.
Os oes diddordeb gyda chi wybod fwy am y cyfleoedd gyrfa wrth ddefnyddio cyfieithu oddifewn i’r GIG, croeso i chi i gysylltu gyda ni am sgwrs.