I raddau, ‘dw i wastad wedi cael fy nenu at y syniad o fod yn feddyg, er cymaint o cliché mae hynny’n swnio! O’n i wrth fy modd efo’r syniad o’r swydd, y syniad o helpu pobl, ond yn anffodus, doedd gen i ddim diddordeb mewn gwyddoniaeth yn yr ysgol. O’dd o’n teimlo fel pipe dream mewn gwirionedd, yn enwedig wedi i mi wneud y penderfyniad i ollwng pob un o’r gwyddorau craidd ar ôl TGAU. Do’n i erioed wedi’ ystyried yn llwybr gyrfa posibl i rywun fel fi, ac mi o’n i wedi’ roi o ar ryw fath o bedestal anghyraeddadwy yn fy meddwl pan ddaeth yr amser i ni wneud ceisiadau UCAS.
Doedd gen i ddim syniad be’ o’n i eisiau ei wneud fel swydd yn y dyfodol, ond y pwnc a oedd yn dod yn fwyaf naturiol i mi, a’r pwnc o’n i wastad wedi’ fwynhau yn yr ysgol, oedd Cymraeg. O ganlyniad, o’dd o’n teimlo fel y dewis amlwg pan ddaeth yn amser i mi benderfynu pa gynllun gradd o’n i am ei ddilyn. I Aberystwyth es i yn ddeunaw, i astudio Cymraeg Proffesiynol, a oedd yn canolbwyntio ar y Gymraeg yn y gweithle a sgiliau cyfoes fel cyfieithu a golygu. Â minnau’n dal ddim yn siŵr beth i’w wneud ar ôl gorffen fy ngradd, es i ymlaen i wneud gradd MPhil ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd mewn llenyddiaeth Gymraeg (a mwynhau fy hun llawer gormod yn y cyfamser!).
Wrth din-droi yn ystod fy ngradd ymchwil, ‘nes i ddarllen am lwybrau amgen i mewn i feddygaeth, a sylweddoli nad oedd y drws o reidrwydd wedi cau. ‘Nes i benderfynu mynd amdani, a cheisio am le ar gwrs Meddygaeth i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe wnes i yn wreiddiol. Pwrpas y llwybr hwnnw oedd rhoi cyfle i unigolion a oedd wedi gwneud gradd arall yn y gorffennol i hyfforddi i fod yn feddygon mewn pedair blynedd yn hytrach na phump. ‘Nes i drio dysgu’r deunydd gwyddonol i mi fy hun mewn mater o fisoedd, cyn sefyll arholiad aruthrol y GAMSAT. Er i mi wneud yn well na’r disgwyl, aflwyddiannus oedd fy nghais a ‘nes i sylweddoli bryd hynny buasai’n rhaid i mi dalu fy nyledion a dal i fyny ar yr ochr wyddonol i bethau yn gyntaf.
Felly, yn y diwedd, ar ôl sefyll yr UKCAT ‘nes i gais i wneud Meddygaeth gyda Blwyddyn Ragarweiniol ym Mhrifysgol Caerdydd. Cwrs chwe blynedd i gyd ar gyfer y rhai hynny nad oes ganddyn nhw gefndir gwyddonol – blwyddyn sylfaenol mewn Gwyddoniaeth a phum mlynedd yn dilyn y cwrs Meddygaeth arferol. ‘Dw i’n llwyr sylweddoli pa mor freintiedig ydw i o fod wedi gallu manteisio ar y cyfle hwn, ac yn sylweddoli nad yw llawer yn cael cyfle i wneud gradd o gwbl, heb sôn am ail neu drydedd radd. Buaswn i’n hoffi dweud wrth unrhyw un sy’n awyddus i ddilyn llwybr addysg uwch, ond sy’n poeni am rwystrau ariannol, fod yna ffyrdd ymlaen a chymorth ariannol ar gael – nid yn unig drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, ond drwy ystod eang o grantiau gwahanol.
Rwyf ar fin cychwyn f’ail flwyddyn ac yn bwriadu gorffen fy nghwrs yn yr Ysgol Feddygol newydd ym Mangor. Ydi, mae o wedi bod yn llwybr troellog ofnadwy ac ydw, ‘dw i’n fyfyriwr aeddfed yng nghanol môr o rai iau na fi, ond mae’n rhaid i fi ddweud, ‘dw i’m yn difaru mynd i wneud Cymraeg yn ddeunaw am un eiliad. Doedd o’n bendant ddim yn “wastraff amser” fel y buasai rhai yn ei awgrymu. Ges i amser anhygoel yn cwrdd â ffrindiau oes a gwneud atgofion bythgofiadwy. Yn wir, heb y cymwysterau a’r profiadau bywyd ‘na ges i yn Aber, ‘dw i ddim yn meddwl y buaswn i wedi cael fy nerbyn ar y cwrs yma! Mae pob profiad yn adeiladu cymeriad ac yn gwella cydnerthedd unigolyn ar ddiwedd y dydd, a ‘dw i’n sicr bod y blynyddoedd ffurfiannol hynny wedi fy mharatoi i fynd i’r afael â llawer o’r heriau ‘dw i’n eu hwynebu ar y cwrs.
Mae o’n teimlo’n reit ryfedd bod yn ôl yn y Brifysgol ar brydia’, yn enwedig pan mae fy ffrindiau i gyd yn gweithio ac yn ennill cyflogau, ond ‘dw i’n gwybod ei fod o werth ei wneud yn y pen draw. Mae’n teimlo fel swydd mewn gwirionedd. Ac mi o’n i’n gwybod y buaswn i’n gallu naill ai treulio chwe blynedd mewn swydd sy’ ddim wir yn gwneud dim byd i fi, a bod yno am weddill fy mywyd gwaith siŵr o fod, neu fynd amdani a threulio’r chwe blynedd hwnnw’n hyfforddi i wneud rhywbeth ‘dw i wirioneddol yn ei fwynhau. Â minnau bellach yn saith ar hugain, ‘dw i’n gwybod pa mor gyflym mae amser yn mynd heibio, felly os ‘da chi’n teimlo fel cymryd blwyddyn allan, neu fynd yn ôl i astudio Meddygaeth ar ôl gwneud rhywbeth hollol wahanol, plîs, gwnewch hynny! Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi ddilyn be’ mae pobl eraill yn ei wneud na dilyn amserlenni cul cymdeithas – gwnewch be’ sydd orau i chi bob tro, a dilynwch eich llwybr eich hun!