CAREERSVILLE

Bydwraig Gymunedol

Lydia - Bydwraig Gymunedol

Lydia ydw i, ac mae fy ngwaith i’n golygu gweithio gyda menywod a’u teuluoedd yn ystod holl gamau eu beichiogrwydd, y geni, a’r cyfnod ôl-enedigol.

Lydia Community Midwife

Lydia Community Midwife

Mae diwrnod arferol yn golygu llawer o yrru rhwng ymweliadau ôl-enedigol, a hynny i weld rhieni newydd a’u teuluoedd yn fuan ar ôl iddyn nhw gyrraedd adref wedi i’w babanod gael eu geni. Fel bydwragedd cymunedol, rydyn ni wrth ein boddau’n dod i adnabod y teuluoedd sydd yn ein gofal, ac mae’n beth da eu bod nhw’n cael parhad yn eu gofal. Mae’n golygu ein bod ni wedi dod i adnabod y teulu o’r cyfnod pan wnaethon nhw feichiogi i’r adeg pan fydd y babi’n cael ei eni, hyd at ryw chwech wythnos oed. Mae hyn yn bwysig i deuluoedd ac i’r bydwragedd, ac rydyn ni’n gwybod ei fod yn gwella profiad teuluoedd o ofal a hefyd eu hiechyd cyffredinol.

Yn ystod ymweliad ôl-enedigol, byddwn ni’n edrych ar iechyd y rhiant a roddodd enedigaeth, gan ofyn cwestiynau iechyd a gwneud archwiliadau corfforol fel mesur pwysedd gwaed a phwls, neu wirio pwythau. Rhan fawr o ymweliad ôl-enedigol yw gweld sut mae lles emosiynol pobl. Mae cael babi yn newid byd i bob rhiant newydd, ac mae asesiadau iechyd meddwl yn arbennig o bwysig. Dyna pam ei bod hi’n bwysig i’r teulu adnabod y fydwraig sy’n dod i’w gweld, er mwyn iddyn nhw deimlo’n ddigon cyfforddus i fod yn agored am sut maen nhw’n teimlo.

Fe fyddwn ni hefyd yn archwilio’r babi newydd yn gorfforol. Mae’r archwiliad hwn yn amrywio yn dibynnu ar ddiwrnod yr ymweliad. Yn ogystal â’r ymweliadau statudol, fe allwn ni ymweld unrhyw bryd, yn dibynnu ar anghenion y teulu. Mae gennyn ni rif ffôn ar alw 24/7 os bydd rhywun eisiau cyngor neu eisiau gofyn i fydwraig i ymweld.

Fe fyddwn ni wastad yn tynnu dillad babanod i wneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn yn ystod ymweliadau. Mae’r mathau o archwiliadau’n gallu cynnwys pwyso’r babi, arsylwi, neu roi prawf gwaed drwy bricio’r sawdl fel rhan o raglen sgrinio Cymru gyfan. Rydyn ni wedi ein hyfforddi i asesu’r risg i’r rhiant a roddodd enedigaeth ac i’r babi yn ystod yr ymweliadau hyn, a byddwn ni’n atgyfeirio achosion at weithwyr iechyd proffesiynol eraill os bydd galw. Fe allai fod nifer o resymau dros atgyfeirio. Er enghraifft, efallai fod gan y fam haint (ac fe fyddai hi wedyn yn cael ei hatgyfeirio yn ôl i’r ysbyty i weld obstetregydd) neu efallai fod gan y babi glefyd melyn (melynu'r croen) ac fe fyddai wedyn yn cael ei atgyfeirio neu ei hatgyfeirio i gael profion gwaed yn yr ysbyty.

Rhan anferth o’n swydd yw rhoi cymorth gyda bwydo – a bwydo ar y fron yn enwedig. Fe fyddwn ni’n gweithio’n agos gyda gweithwyr cymorth mamolaeth sy’n gefn gwych i deuluoedd wrth eu helpu i fwydo. Helpu teuluoedd i fwydo ar y fron yw un o’u swyddi pwysicaf. Os byddwn ni’n ymweld â theulu sy’n ei chael hi’n anodd bwydo, fe fyddwn ni wrth gwrs yn rhoi cymorth iddyn nhw, ac yna’n gofyn i’n gweithwyr cymorth mamolaeth ymweld â nhw i roi rhagor o gymorth.

Mae rhan o’n swydd hefyd yn golygu bod yn gefn i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth, ac fe fyddwn ni’n ymweld â theuluoedd babanod sydd yn anffodus wedi marw yn ystod y beichiogrwydd neu’r enedigaeth. Fe fyddwn ni’n ymweld â’r teuluoedd hyn yn yr un ffordd ag y byddwn ni’n ymweld ag unrhyw deulu arall, er mwyn gweld sut mae’r rhieni oedd i roi genedigaeth yn ymdopi, a’u helpu nhw mewn unrhyw ffordd bosibl – er enghraifft, drwy sgwrsio am y babi. Mae gennyn ni hefyd fydwraig profedigaeth sy’n gweithio’n agos gyda ni, ac sy’n arbenigo mewn cynorthwyo’r teuluoedd hyn.

Fel y gwelwch chi, fe all ein gwaith o ddydd i ddydd fod yn hynod o amrywiol wrth ymweld â gwahanol deuluoedd sy’n profi amgylchiadau gwahanol iawn. Rydyn ni’n rhan o wasanaeth prysur, sy’n gyrru o gwmpas, yn ymweld â theuluoedd, ac yn ateb ein ffonau ar alw, yn ogystal â bod ar alw yn yr ysbyty. Does yr un diwrnod fyth yr un fath, ond ein gwaith ni yw cynorthwyo a gofalu am fenywod, eu teuluoedd a’u babanod.