Helô, Tom ydw i ac rydw i’n Fferyllydd Mamolaeth.
Mae fferyllwyr yn rhan hollbwysig o’r tîm gofal iechyd ac mae bod yn fferyllydd yn gyfle gwych i helpu cleifion i ddefnyddio’u meddyginiaethau yn y ffordd orau.
Fe ddewisais i astudio fferylliaeth yn y brifysgol yn wreiddiol oherwydd roedd gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ac roeddwn i eisiau swydd lle gallwn i helpu pobl.
Ar ôl bod yn y brifysgol, fe ddewisais i wneud fy hyfforddiant cyn-cofrestru mewn ysbyty. Fe ddangosodd hyn i mi beth oedd fferylliaeth glinigol, sef ceisio defnyddio meddyginiaethau yn y ffordd sy’n rhoi’r budd mwyaf i gleifion, a gwneud y defnydd gorau posibl ohonyn nhw.
Roeddwn i’n mwynhau maes paediatreg yn fawr iawn, a dyna pam roeddwn i eisiau gweithio yn y maes hwn o fewn fferylliaeth glinigol. Yn ddiweddarach, fe ges i gyfle i weithio ar uned newyddenedigol, a dyna ble des i o hyd i fy union faes!
Fe es i’r brifysgol i astudio fferylliaeth, cyn treulio fy mlwyddyn cyn-cofrestru yn gweithio ac yn hyfforddi er mwyn pasio’r arholiadau i gofrestru fel fferyllydd. Ar ôl cofrestru, fe wnes i gwblhau diploma clinigol a oedd yn golygu symud rhwng gwahanol arbenigeddau yn yr ysbyty, ac fe roddodd hynny wybodaeth dda i mi am lawer o feysydd gwahanol.
Yna fe es i yn fy mlaen i gwblhau cymhwyster presgripsiynu annibynnol, sy’n fy ngalluogi i bresgripsiynu meddyginiaethau.
Mae hyfforddiant fferyllol wedi newid yn fawr ers i mi gymhwyso.
Bellach, mae’r radd a’r flwyddyn cyn-cofrestru wedi’u cyfuno yn un cwrs 5 mlynedd, ac mae’n cynnwys lleoliadau clinigol mewn gwahanol sectorau o fewn y maes fferylliaeth
(cymunedol, ysbyty, gofal sylfaenol). Bydd fferyllwyr hefyd yn bresgripsiynwyr annibynnol pan fyddan nhw’n cymhwyso am y tro cyntaf, a does dim rhaid iddyn nhw gwblhau’r cwrs ychwanegol fel gwnes i.
Rydw i wrth fy modd yn sicrhau bod cleifion yn cael y meddyginiaethau iawn, ac yn eu defnyddio yn y ffordd orau. Mae hyn yn gallu golygu pethau gweddol syml fel sicrhau bod cyflenwadau o feddyginiaethau’n cyrraedd y ward yn brydlon, neu waith mwy clinigol fel cyfrannu at ganllawiau i sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf wrth i bresgripsiynwyr benderfynu pa feddyginiaethau i’w rhoi. Gan fod rhai o’r meddyginiaethau sy’n cael eu rhoi i blant newydd-anedig yn cael eu defnyddio y tu hwnt i’r defnydd arferol (efallai mai i oedolion y maen nhw i fod), mae’n gofyn am wybodaeth arbenigol a’r gallu i ddatrys problemau’n ddyfeisgar er mwyn gwybod sut i’w rhoi i blant newydd-anedig.
Rydw i hefyd yn cyfrannu at elfen dechnegol creu rhai meddyginiaethau a maeth sy’n cael ei roi drwy’r gwythiennau, a hynny yn ein huned weithgynhyrchu fewnol.
Y gallu i weithio’n dda mewn tîm, rhoi sylw i fanylion, a datrys problemau.
Mae fferylliaeth yn broffesiwn eang ac amrywiol, a’r swyddi’n amrywio o ddatblygu cyffuriau newydd yn y diwydiant fferyllol, i gyflenwi’r meddyginiaethau hynny a rhoi cyngor mewn fferyllfeydd cymunedol, i weld cleifion mewn meddygfeydd ac ar wardiau ysbytai.