CAREERSVILLE

Sgrinio Clyw Babanod

Louise - Sgrinydd Clyw Babanod.

Louise ydw i, ac rydw i’n sgriniwr clyw babanod yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Louise New Born hearing screener

Louise New Born hearing screener

Fel sgriniwr, rwy'n sgrinio clyw babis newydd-anedig, i weld a ydyn nhw wedi colli’u clyw. Mae hyn yn sicrhau bod rhieni’n cael y cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol o’r dechrau er mwyn lleihau cymaint ag y bo modd ar unrhyw oedi wrth ddatblygu iaith a lleferydd os gwelwn ni fod y babi wedi colli clyw mewn rhyw fodd. Fe fyddwn ni’n sgrinio ar wardiau ôl-enedigol, gan sgrinio babanod sydd weithiau’n ddim ond ychydig oriau oed. Fe fyddwn ni hefyd yn sgrinio ar unedau Gofal Arbennig ac yn y gymuned yn achos babanod na fydd yn cael eu sgrinio yn yr ysbyty neu y bydd angen eu sgrinio nhw eto.

Byddwn ni’r sgrinwyr yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, fel bydwragedd, nyrsys meithrinfa a phediatregyddion. Yn y gymuned, byddwn ni’n cydweithio â bydwragedd cymunedol, ymwelwyr iechyd a meddygon teulu.

Mae ein gwaith ni’n golygu cyfuniad o waith gweinyddol a chyswllt clinigol wyneb yn wyneb. Fe fyddwn ni’n dechrau ein diwrnod yn y swyddfa gan brofi’r offer rydyn ni’n ei ddefnyddio i sgrinio. Fe fyddwn ni’n edrych drwy’r cronfeydd data o fabanod sydd wedi’u geni yn Singleton, ac yna’n mynd i’r wardiau i gael casglu gwybodaeth y babanod sy'n dal i fod yno, a'r rhai sydd wedi'u rhyddhau cyn dechrau’r broses o sgrinio fel y gallwn wneud apwyntiadau clinig ar gyfer y rhai a gollwyd gan wneud

yn siŵr bod pob babi yn cael y cyfle i gael ei sgrinio. Fe fyddwn i wedyn yn mynd i’r ward i esbonio’r broses sgrinio i’r rhieni ac i sicrhau eu bod nhw’n cydsynio i ni sgrinio. Mae’r broses sgrinio yn golygu rhoi clustffon meddal yng nghlustiau’r babanod, a byddan nhw’n clywed synau clicio tawel. Mae ein hoffer yn rhoi gwybod i ni’n syth sut mae’r babi’n ymateb. Ar ôl cwblhau'r Sgrinio, rydym yn dychwelyd i'n swyddfa ac yn cofnodi'n gywir data’r prawf clinigol sy'n berthnasol i'r broses sgrinio. Yn y prynhawn, byddwn ni’n cynnal clinigau cymunedol, yn trefnu ac yn creu apwyntiadau i fabanod yn y clinig, ac yn gwneud amryw o dasgau gweinyddol eraill.

Bydd yr isadran sgrinio yn gofyn i ymgeiswyr gael safon dda o addysg llythrennedd a rhifedd, a chymwysterau TGAU neu gyfatebol. Oherwydd cyd-destun a natur y swydd, mae profiad o weithio gyda theuluoedd, babanod a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill mewn amgylchedd clinigol yn fuddiol, gan fod sgiliau cyfathrebu a sgiliau trin pobl yn hollbwysig yn y swydd hon.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i gael hyfforddiant mewnol, sy’n cynnwys Rhaglen Sefydlu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, yn ogystal â gweithio tuag at ddiploma Lefel 3 mewn Sgrinio Clyw Babanod. Mae hyfforddiant parhaus o fewn y rôl ac mae yna hyfforddiant a dysgu gorfodol sydd angen ei gyflawni i fod yn sgriniwr gymwys ac i fod yn gyfredol â'r holl bolisïau a chanllawiau.

Mae’r rheowyr yn rhoi anogaeth a chyfleoedd i bobl wneud cynnydd ym maes sgrinio clyw babanod. Bydd Sgrinwyr Clyw Babanod yn cael eu penodi ar fand 2, ond yn dringo’n awtomatig i swyddi band 3 pan fyddwn ni’n cwblhau cymwysterau lefel 3. Mae cyfleoedd i wneud cais am swyddi Uwch Sgrinwyr band 4 yn y gwasanaeth, sy’n cyfuno gwaith sgrinio â dyletswyddau hyfforddi a dyletswyddau technegol.

Rydw i’n mwynhau fy ngwaith fel Sgriniwr Clyw Babanod, gan na fydd yr un diwrnod fyth yr un fath â’r llall, ac mae cyfle i gwrdd ag amrywiaeth eang o bobl, gyda'r bonws o adnabod babanod a allai fod â cholled clyw ac i fod yn ganolog i ddechrau eu taith i fyw ac addasu i hyn.