Rwy’n gweithio ym Meithrinfa Gofal Dydd Hollies, meithrinfa breifat yng Nghaerdydd.
Mae Hollies yn darparu ar gyfer plant rhwng chwe wythnos a phump oed ac rydw i wedi fy lleoli yn yr ystafell ar gyfer plant rhwng tair a phump.
Bydd diwrnod gwaith arferol yn dechrau drwy baratoi’r ystafell sylfaenol am 7.30am fel ei bod yn gynnes ac yn groesawgar gyda cherddoriaeth ymlaciol yn y cefndir a gweithgareddau i’r plant eu mwynhau – gall hyn helpu i hwyluso’r broses o drosglwyddo’r plant i’r feithrinfa gan fod llawer o hwyl ac ardaloedd difyr i’w harchwilio yn tynnu eu sylw. Yna, rwy’n croesawu’r plant i’r feithrinfa ac yn cynllunio ar gyfer y diwrnod. Byddaf yn darparu brecwast, swper, te a byrbrydau drwy gydol y dydd. Mae ganddynt amser stori ac amser cylch er mwyn i ni allu croesawu pob plentyn yn ôl eu henwau a thrafod y gweithgareddau rydyn ni wedi’u cynllunio. Wedyn byddaf yn eistedd gyda’r plant yn yr ardaloedd, boed hynny’n adeiladu tyrau, paentio, chwarae gyda chlai, chwarae gyda dŵr, coginio, amser garddio neu lawer o weithgareddau eraill. Rwy’n cael cymaint o hwyl yn gwrando ac yn cynllunio gweithgareddau sy’n ymwneud â’u diddordebau, gan gynnwys siopau trin gwallt, môr-ladron neu fwyta’n iach. Rwyf hefyd yn cynllunio gweithgareddau sy’n ymwneud ag oedran a chyfnod datblygiad y plant ac yn meddwl am bethau gwahanol i’w gwneud er mwyn eu helpu i ddysgu a gwella eu sgiliau. Mae bob amser yn werth chweil pan fydd y plant yn gallu dangos i’w rhieni eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd yn y feithrinfa. Rydyn ni’n helpu’r plant gyda threfniadau gofal personol fel newid clytiau, mynd i’r toiled a newid dillad os ydyn nhw wedi baeddu. Rwyf yn cofnodi fy holl arsylwadau ar bob plentyn yn eu llyfrau datblygu unigol i ddangos fy mod yn eu helpu i dyfu a datblygu. Daw fy niwrnod i ben am 6pm pan fyddaf yn siarad â phob rhiant am ddiwrnod eu plentyn. Mae gen i ddau aelod arall o staff yn yr ystafell i helpu i fy nghefnogi ac maen nhw fel ail deulu imi.
Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, rwy’n cael boddhad o ddysgu sgiliau newydd i blant, sgiliau y bydd eu hangen arnynt. Rydych chi’n gwneud llawer o ffrindiau newydd ac mae’r staff fel teulu. Rydych yn meithrin perthynas dda gyda phlant a rhieni, ac mae pob diwrnod yn wahanol.
Roeddwn i’n gwybod yn yr ysgol uwchradd fy mod i eisiau gweithio gyda phlant. Roedd gen i nithod a neiaint ac roeddwn bob amser yn teimlo’n hapus wrth eu helpu i gerdded, siarad a chael hwyl wrth chwarae gemau. Dilynais gwrs ar ddatblygiad plant yn yr ysgol uwchradd a mynychais ddiwrnod profiad gwaith mewn ysgol. Ar ôl hynny, penderfynais fynd i’r coleg ac astudio ar gyfer fy Diploma CACHE lefel 3. Dyma lle cefais lawer o brofiadau mewn lleoliadau gwahanol i gwblhau fy ngwaith cwrs. Roedd y profiad hwn yn help imi benderfynu mai mewn meithrinfa breifat y byddwn i’n teimlo fwyaf cyfforddus ac roeddwn i’n mwynhau cael profiad o’r ystod oedran eang o chwe wythnos i bump oed.
Fe wnes i gwblhau fy Diploma CACHE lefel 3 er mwyn dechrau fy rôl fel Nyrs Feithrin ond gallwch hefyd gael CACHE lefel 2 i fod yn Gynorthwyydd mewn Meithrinfa. Bues i’n gweithio fy ffordd i fyny i lefel 5 CGC er mwyn ehangu fy ngwybodaeth ac erbyn hyn rwy’n Ddirprwy Reolwr.
Astudiais yng Ngholeg Glan Hafren am dair blynedd. Ar ôl i mi fod yn gweithio yn Hollies am gwpl o flynyddoedd, fe wnes i gwblhau lefel 5 fy CGC tra’n gweithio a daeth asesydd allan i ymweld â mi yn y lleoliad.
Rwy’n mwynhau fy rôl gan fod cynifer o gyfleoedd i dyfu a datblygu. Rwy’n mwynhau mynd ar gyrsiau i wella fy ngwybodaeth am wahanol bynciau. Gan fod gennyf blentyn fy hun, mae hynny’n fy helpu i gynllunio ar gyfer y penwythnosau ac i wybod sut i ddelio â gwahanol ymddygiadau. Mae pethau’n newid drwy’r amser felly mae rhywbeth newydd i’w ddysgu bob amser. Mae dechrau fel Nyrs Feithrin a dod yn Ddirprwy Reolwr yn llwyddiant mawr. Rydych chi’n gwneud llawer o ffrindiau newydd ac mae Hollies fel ail deulu i mi. Rwy’n mwynhau meddwl am weithgareddau newydd ar gyfer y plant a meddwl ar fy nhraed. Mae llawer o waith papur hefyd yn gysylltiedig â ffurflenni damweiniau, taflenni mynd adref bob dydd a llyfrau datblygu dyddiol, ond pan fyddwch yn edrych yn ôl i weld faint mae'r plant wedi tyfu a faint rydych wedi'i ddysgu iddynt, mae'n rhoi cymaint o foddhad ichi. Hyd yn oed pan fyddwch yn gweld y plant ar ôl iddynt adael y lleoliad, maent yn dal i’ch cofio ac yn siarad â chi am eu profiadau. Mae hyn bob amser yn rhoi gwên ar fy wyneb gan eich bod yn gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ac mae gan y plant atgofion hyfryd. Rhaid i chi gofio y gall rhai plant dreulio mwy o’u hamser yn y feithrinfa nag a wnânt gartref yn ystod y dydd. Rydw i’n mwynhau cael y cysylltiad â rhieni a siarad â nhw am eu plant ac mae’n braf gallu eu cefnogi drwy wahanol gyfnodau pontio fel symud tŷ, brodyr a chwiorydd newydd a dechrau yn yr ysgol. Os oes gennych chi berthynas dda yna gallwch drafod a chynllunio gweithgareddau sy’n ymwneud â’r meysydd a allai fod yn newid ym mywyd plentyn. Mae’n bwysig gadael i’r plant gael llais a bod yn hyderus i siarad er mwyn iddynt allu dod yn bobl annibynnol sy’n meddwl ac yn dysgu. Mae rhoi’r profiadau uniongyrchol i’r plant nad ydynt efallai’n eu cael gartref a’u bod yn siarad amdanynt am wythnosau wedyn yn rhoi boddhad bob amser.