CAREERSVILLE

Gweithio Fel Hylenydd Deintyddol

Kate Oakes - Hylenydd Deintyddol

I mi’n bersonol, mae fy rôl yn amrywiol iawn. Rwy’n gweithio yn yr Ysbyty Deintyddol yng Nghaerdydd fel Hylenydd Deintyddol. Rwyf wedi bod yn y swydd hon ers 4 blynedd. Yn yr ysbyty, caiff cleifion eu hatgyfeirio atom ni gan bractisis deintyddol cyffredinol am amrywiaeth o resymau – triniaeth bryderus, arbenigol. Mae angen treulio amser gyda chleifion sy’n bryderus i’w helpu i dderbyn eu triniaeth yn haws. Mae gennym ni gleifion gofal arbennig â phroblemau meddygol sy’n gofyn am fwy o amser wrth eu trin.

Kate Oakes

Kate Oakes

Beth ydych chi’n mwynhau mwyaf am eich swydd?

Rwyf wrth fy modd yn siarad â phobl, yn ceisio gwneud iddynt ymlacio a’u helpu i fwynhau eu hapwyntiadau. Mae’n fraint i mi fod sawl un o’m cleifion yn teimlo y gallant siarad â mi am broblemau eraill a allai fod ganddynt, e.e. iechyd meddwl, problemau perthynas – maent yn teimlo fod ganddynt rywun i siarad ag ef y tu allan i’r sefyllfa. Rwyf wrth fy modd yn gweld y gwelliant y gall pobl ei wneud yn eu hiechyd deintyddol mewn un ymweliad yn unig.

Mae pob diwrnod yn wahanol ac mae pob claf yn wahanol. Mae llawer o’m cleifion yn dod i fod yn fwy na ‘chlaf yn unig’ ac maent bron yn ffrindiau gan eu bod nhw’n hoffi dod â lluniau o’u hwyrion a’u hwyresau, eu gwyliau neu eu hanifeiliaid ansawdd yn aml. Mae gen i sawl ci sy’n dod i ymweld â ni – mae Sophie a Max yn gŵn tywys, mae Lucy yn gi clywed ac mae apwyntiadau’n llawer o hwyl gyda nhw. Rwyf yn caru fy swydd a gallu chwerthin bob dydd.

Sut daethoch chi i’r rôl hon?

Wythnos fy mhen-blwydd yn 16 oed, des i i fod yn ‘ferch dydd Sadwrn’ yn fy mhractis deintyddol lleol. Roeddwn i’n ddigon ffodus i astudio yn Ysbyty Prifysgol Cymru am ddwy flynedd fel nyrs deintyddol a wnaeth roi cyfle i mi ddechrau gweithio mewn practis deintyddol cyffredinol ac yna mewn gwasanaeth deintyddol yn y gymuned.

Gweithiais i yn y gwasanaeth deintyddol yn y gymuned am sawl blynedd – roeddwn i’n cynnal fy nghlinig fy hun gyda dau ddeintydd ac orthodeintydd ac roeddem ni’n derbyn myfyrwyr deintyddol a oedd yn hyfforddi. Fi oedd yn cynnal yr adran anghenion arbennig am flwyddyn, gan drefnu meddygfa ddeintyddol di-symud a symudol i fynd i mewn i ysgolion. Wedi hynny, Caerdydd oedd yr ysgol gyntaf y tu allan i Lundain i gynnig y cwrs therapydd deintyddol.

Gwnes i gymhwyso fel therapydd deintyddol ym 1997 ac es i’n ôl i sefyll fy arholiadau hylendid terfynol ym 1999. Gweithiais i yn y gwasanaeth deintyddol yn y gymuned, practis deintyddol cyffredinol ac yn yr ysbyty deintyddol. Rwyf wedi gallu gweithio i hylenyddion a therapyddion hyfforddiant ôl-raddedig deintyddol. Roeddwn i’n darlithio yng Nghaerdydd am bum mlynedd yn hyfforddi myfyrwyr deintyddiaeth, hylenyddion a therapyddion.

Pa fath o berson fyddai’n addas ar gyfer eich swydd chi?

Mae rôl hylenydd deintyddol yn amrywio gan ddibynnu ar ble rydych chi am weithio. Mewn practis cyffredinol, mae’n swydd brysur ac amrywiol. Mewn gwasanaethau deintyddol yn y gymuned ac yn yr ysbyty, mae gan gleifion fwy o amser ar gyfer eu hapwyntiadau. Mae angen i chi allu siarad, a siarad am bron â bod unrhyw beth. Mae angen i chi fod yn amyneddgar gyda chleifion, yn enwedig os byddant yn bryderus iawn. Mae angen cael empathi. Mae angen gallu chwerthin ar sefyllfaoedd.