CAREERSVILLE

Bywyd Fel Therapydd Deintyddol

Fiona Sandom - Therapydd Deintyddol/Prif Addysgwr Deintyddol/Arbenigwr Pwnc

Rwy’n therapydd deintyddol sy’n golygu fy mod i’n gallu cynnig triniaeth ddeintyddol benodol i gleifion o bob oedran mewn lleoliadau gofal deintyddol amrywiol.

Fiona Sandom

Fiona Sandom

Lle(oedd) gweithio:

Glandwr Dental Practices yng Nghricieth a Phwllheli/AaGIC/Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol

Beth sydd wedi’i gynnwys yn eich rôl chi?

Rwy’n therapydd deintyddol sy’n golygu fy mod i’n gallu cynnig triniaeth ddeintyddol benodol i gleifion o bob oedran mewn lleoliadau gofal deintyddol amrywiol. Mae’r driniaeth y gall therapyddion deintyddol ei darparu wedi’i rheoli gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, a chyfeirir at hyn fel 2cwmpas ein hymarfer”. Y Cwmpas Ymarfer y gall therapydd deintyddol ymgymryd ag ef ar gymhwyso yw hyrwyddo iechyd ac addysg ddeintyddol, triniaeth ataliol, megis farnais fflworid, yn ogystal â thriniaethau ar gyfer clefyd cig y dannedd ac adfer dannedd yn uniongyrchol drwy eu llenwi gyda’r deunydd mwyaf priodol ar gyfer y sefyllfa.

Gall Therapyddion Deintyddol hefyd archwilio claf a rhoi diagnosis a chynllun triniaeth ar waith fel rhan o’r cwmpas ymarfer hwn. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gallu eu cyfiawnhau, eu cymryd a’u defnyddio yn ein cynlluniau triniaeth ac wrth gofnodi clefyd.Rydym ni hefyd yn gallu rhoi “triniaeth nerfau” ar ddannedd cyntaf (sef dannedd babis a babanod), gosod dannedd gosod a’u tynnu. Er mwyn cynnig triniaeth heb boen, rydym ni’n gallu rhoi anaesthetig lleol.

Ar ôl cymhwyso, mae triniaethau ychwanegol y gallwn ni eu perfformio ar ôl cael hyfforddiant priodol ac mae’r rhain yn cynnwys gwynnu dannedd, tynnu pwythiadau a thrin cleifion sy’n bryderus iawn gyda Thawelyddion Anadlu (sef nwy hapus).

Rwy’n ffodus i allu defnyddio fy holl hyfforddiant i drin cleifion. Yn y practis yng Nghricieth, rwy’n gweld cleifion sy’n oedolion yn bennaf, ond rwy’n gweld plant hefyd. Y rhan fwyaf o’r gwaith rwy’n ei wneud yw llenwi dannedd, naill ai dant drwg newydd neu ddannedd sydd eisoes wedi cael eu hadfer lle mae angen ychydig o waith adfer neu ddannedd newydd. Rwyf hefyd yn trin clefyd cig y dannedd, neu glefyd periodontal, ac mae hyn yn gofyn i chi ddwyn perswâd ar y claf i newid ei arferion hylendid geneuol a chyflwyno pethau newydd i’w arferion. Weithiau, gall hyn fod yn her ond pan fyddwch chi’n llwyddiannus, mae’n teimlo’n wych!

Roeddwn i’n arfer gweithio yn y gwasanaeth deintyddol yn y gymuned yn trin plant ac oedolion ifanc a oedd yn bryderus iawn, gan ddefnyddio tawelyddion anadlu i’w helpu i reoli eu triniaeth. Roedd honno’n swydd a oedd yn rhoi boddhad mawr, yn eu helpu i ymdopi â chael y driniaeth, gan olygu y byddai modd i ni atal unrhyw boen ac yn yr achos gwaethaf, gorfod mynd i’r ysbyty i gael anaesthetig cyffredinol.

Ym Mhwllheli, rwy’n gweld oedolion yn bennaf, gan eu trin a’u helpu gyda chynhaliaeth cig y dannedd.

Beth ydych chi’n mwynhau mwyaf am eich swydd?

Pobl! Rwy’n mwynhau gweithio gyda thîm agos o bobl sydd am drin clefyd deintyddol, atal poen a dioddefaint o ganlyniad iddo ac adfer gwên rhywun, naill ai drwy gael gwared ar boen neu wella eu gwên.

Mae effaith clefyd deintyddol yn enfawr ac os ydym ni’n gallu gweithio fel rhan o dîm i helpu i’w leihau a’i atal, mae hyn yn wych.

Yn ogystal â gweithio mewn tîm, rwy’n mwynhau cwmni cleifion gan fod pob un ohonynt â stori wahanol ac mae dod i adnabod pobl yn hyfryd.

Hefyd, does dim byd sy’n rhoi mwy o foddhad na gorffen cwrs o driniaeth a gweld ceg ag iechyd wedi’i adfer.

Sut daethoch chi i’ch rôl?

Roeddwn i’n gweithio fel nyrs deintyddol mewn practis deintyddol ar y Traeth Mawr ar ogledd Ynys Môn. Ar ôl cymhwyso, es i i Ysbyty Deintyddol Manceinion i fod yn hylenydd deintyddol ac yna gwnes i ddychwelyd i’r practis ar Ynys Môn. Ar ôl tua dwy flynedd, es i i Ysbyty Deintyddol Prifysgol Lerpwl i gymhwyso fel therapydd deintyddol.

Pa fath o berson fyddai’n addas i’ch swydd chi?

Mae’n rhaid eich bod chi’n hoffi pobl. Rydym ni’n gweithio’n agos iawn fel tîm ym maes deintyddiaeth ac felly byddwch chi’n gallu mwynhau cwmni llawer o bobl, nid yn unig yr amrywiaeth o bersonoliaethau cleifion ond hefyd eich cydweithwyr.

Ar ben hynny, mae angen bod yn dda gyda’ch dwylo gan fod y geg yn lle bach a llithrig i weithio gydag offerynnau miniog.