Leigha ydw i, rwy’n ddeunaw oed ac yn dod o Birmingham. Rwy’n y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Radiotherapi ac Oncoleg.
Dewisais astudio radiotherapi oherwydd bod canser wedi effeithio ar fy nheulu sawl gwaith. Yn fwyaf arwyddocaol, cafodd fy mam ddiagnosis a thriniaeth radiotherapi ar gyfer canser y tonsil pan oeddwn i’n un ar bymtheg oed. Felly, profiad fy mam wnaeth fy ysgogi i gychwyn ar fy nhaith fy hun i astudio radiotherapi. Roeddwn i’n gobeithio dod yn radiograffydd therapiwtig yn y GIG un diwrnod, er mwyn talu’n ôl am y gwaith amhrisiadwy a helpodd fy nheulu.
Cyn mynd i’r brifysgol, fe wnes i astudio Bioleg a Chemeg Safon Uwch yn ogystal â BTEC Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd y gymysgedd o bynciau gwyddoniaeth Safon Uwch yn help ar gyfer y modiwlau ffiseg ac oncoleg yn fy nysgu academaidd. Yn fy marn i, mae’r maes iechyd a gofal cymdeithasol, wedi rhoi sgiliau cyfathrebu gwerthfawr i mi i gefnogi fy lleoliadau clinigol.
Rwy’n credu mai’r boddhad o wybod fy mod wedi gwneud i glaf chwerthin neu wedi’i helpu yn ystod ei daith ganser yw un o’r pethau mwyaf boddhaus am y cwrs, yn ogystal ag ochr academaidd y radd sy’n fy ngalluogi i ddatblygu dealltwriaeth o’r manylion a’r manylder sydd ym mhob triniaeth unigol.
Cynhelir lleoliadau clinigol Prifysgol Caerdydd yn nhair canolfan radiotherapi GIG Cymru yng Nghaerdydd, Abertawe a Gogledd Cymru. Mae’r cylchdroi’n caniatáu i fyfyrwyr fel fi ddatblygu’r gallu i addasu fy ymarfer i gyd-fynd â’r technegau sydd gan wahanol ganolfannau. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, roeddwn wedi cwblhau gwerth 10 wythnos o leoliad, sy’n fuddiol iawn i allu rhoi hwb i fy natblygiad proffesiynol gan fy nghyflwyno i fyd radiograffeg.
Mae radiograffyddion yn ymwneud â llawer o gamau’r broses drin fel sganio’r claf i baratoi ar gyfer cynllunio triniaeth, cynllunio’r driniaeth, rhoi’r driniaeth ac yna tywys y cleifion drwy eu symptomau a’u helpu i ddod yn ôl i drefn ar ôl i’r cwrs o driniaeth ddod i ben. Mae’r dewis o rolau niferus y gallwn weithio tuag atyn nhw yn y dyfodol o ddiddordeb i mi ac yn rhywbeth sy’n fy ysbrydoli fel myfyriwr.
Byddwn yn bendant yn argymell y cwrs hwn i’r rheini sydd â diddordeb yn y sector gofal iechyd ac a fyddai’n hoffi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Yn fy marn i, mae gan y cwrs y cydbwysedd cywir o wyddoniaeth ac anogaeth. Mae gwyddoniaeth wedi ennyn fy niddordeb erioed, felly roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau dilyn cwrs a oedd yn cyfuno fy niddordeb mewn ffiseg a chemeg ynghyd â gofal cleifion. Mae rôl gofalu am gleifion yn mynd ymhellach na’r claf sy’n cael triniaeth yn unig. Mae hefyd yn cynnwys y teuluoedd sy’n rhan o daith eu hanwyliaid. Mae’r boddhad o roi cymorth i deuluoedd mewn cyfnod o’r fath angen, yn ogystal â darparu triniaethau sydd o bosib yn achub bywyd, yn rheswm pam y byddwn yn argymell astudio radiotherapi.
Ar ôl imi gwblhau’r cwrs, rwy’n gobeithio dod yn radiograffydd yn y GIG a chael gyrfa y byddaf yn parhau i'w mwynhau. Ar ôl blwyddyn o astudio, rwyf wedi datblygu diddordeb mewn radiograffeg adolygu a thrin, ac yn fwy penodol adolygu cleifion canser y pen a’r gwddf. Felly, rwy’n credu mai fy uchelgais ar gyfer y dyfodol yw canolbwyntio ar y posibilrwydd o arbenigo mewn gofalu am gleifion canser y pen a’r gwddf, gan obeithio rhoi’r un lefel o ofal anhygoel i gleifion ag a gafodd fy mam gan y GIG yn 2019.