Yn wreiddiol yn artist ymarferol a weithiai yng nghymunedau rhanedig Belfast, daeth yn amlwg bod angen hyfforddiant arbenigol pellach arnaf i ddiwallu anghenion cymhleth y rhai yr oeddwn yn gweithio ac yn ymgysylltu â hwy mewn grwpiau stiwdio celfyddydau cymunedol a gweithdai celfyddydol.
Fe’m galluogwyd drwy’r hyfforddiant meistr therapi celf, a gynigiwyd gan Brifysgol y Frenhines, Belfast, i ymateb yn therapiwtig i anghenion emosiynol a thriniaethol y rhai yr effeithiwyd arnynt gan drawma a PTSD tra hefyd yn defnyddio’r sgiliau creadigol a chelfyddydol a fodolai gan gyfuno dau faes arbenigedd. Bu hwn yn brofiad dadlennol a chafodd effaith ddirfawr ar fy nealltwriaeth o’r hyn sy’n ofynnol i allu gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl gyda phobl o gefndiroedd amrywiaethol a chydag anghenion iechyd meddwl ac emosiynol cymhleth.
Ers hynny, es i ymlaen i weithio â nifer o wasanaethau a sefydliadau fel therapydd celf. Ceisiais hefyd gael rhywfaint o hyfforddiant pellach mewn seicotherapi datblygiadol dyadig, goruchwyliaeth glinigol, therapi sy’n canolbwyntio ar atebion a therapi ymddygiad gwybyddol.
Fy mhrif feysydd diddordeb ac ymchwil ar hyn o bryd yw’r defnydd o greadigrwydd ar draws proffesiynau eraill a lluosogaeth mewn ymarfer seicotherapi celf. Rwy’n hoff o fethodoleg ymchwil ar sail celf hefyd!
Rwy’n hynod falch o fod yn seicotherapydd celf. Mae rôl broffesiynol seicotherapydd celf yn un amrywiol.
Yn syml, y mae’n broffesiwn amlochrog iawn, sy’n parhau i dyfu a datblygu gydag anghenion newidiol poblogaethau amrywiaethol y DU, ar draws y cyfwng oedran, a’r llu o grwpiau, cymunedau a diwylliannau ethnig.