Mae podiatryddion yn arbenigwyr meddygol sydd wedi’u hyfforddi i asesu, diagnosio a thrin cyflyrau sy'n gysylltiedig â'r traed, y fferau, y coesau a'u strwythurau cysylltiedig.
Ffaith: Câi Podiatryddion eu galw'n Giropodyddion hyd at 1993 pan fathwyd y teitl Podiatrydd, sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Caiff y term ciropodydd ei ddefnyddio hyd heddiw ar brydiau ond nid oes gwahaniaeth rhwng y ddau.
Bydd cleifion o bob oedran a chefndir. Gallant yn aml fod yn blant neu'n oedrannus. Gall fod yno glinigau mwy arbenigol sy’n ymgymryd â rheoli traed risg uchel, llawfeddygaeth ewinedd neu glinigau Cyhyrysgerbydol.
Bydd podiatryddion yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd, yn aml mewn cysylltiad agos â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd.
Maent yn aml yn cael eu lleoli mewn ysbytai, clinigau cymunedol, meddygfeydd neu mewn practis preifat.
Tra’n gweithio yn y lleoliadau hyn gallant fod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol a allai gynnwys nyrsys, ffisiotherapyddion, meddygon ac orthotyddion.
Bydd rhai Podiatryddion hefyd yn ymgymryd ag ymweliadau cartref gyda chleifion nad ydynt yn gallu mynychu clinigau oherwydd problemau iechyd.