Croeso i Dregyrfa
Mae gan iechyd a gofal lawer i'w gynnig ar hyd pob cam o'ch taith gyrfa, gyda thros 350 o rolau ar lefelau amrywiol ar gael.
Er mwyn eich helpu i ddeall yn llawn y cyfleoedd sydd ar gael a gwneud dewisiadau gwybodus, rydym wedi datblygu pentref rhithwir sef Tregyrfa. Mae Tregyrfa yn gartref i wahanol elfennau o’r cyfleoedd iechyd a gofal a'r gyrfaoedd cysylltiedig sydd ar gael.
Mae llwyth o adnoddau ar gael i chi ddysgu rhagor am yr ystod eang o wahanol yrfaoedd yn y sector iechyd a gofal, yma yng Nghymru. Mae hefyd ddigwyddiadau yn y sinema a chyfres o ddeunyddiau yn ein Llyfrgell Sgiliau o’r enw ‘Bydd wych’ a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich potensial llawn. Cofiwch alw heibio i’r Gornel Gymraeg hefyd lle gallwch eistedd yn ôl a dysgu am werth defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Prentisiaethau ar Tregyrfa
Mewn cydweithrediad â Gofalwn Cymru, ac fel rhan o’r ymgyrch “Gwnewch rywbeth clyfar”, rydym yn falch iawn o ddathlu prentisiaethau ar Tregyrfa.
Mae prentisiaeth yn ffordd wych i waith neu yrfa newydd ym maes iechyd a Gofal yng Nghymru, beth bynnag fo'ch oedran. Ewch draw i'r sinema a'r Llyfrgell Sgiliau i ddarganfod mwy.
Barod i ddarganfod eich dyfodol? Dewch mewn ac edrychwch ar ba daith gyrfa hoffech chi archwilio!