Skip to main content
(press enter)

Tregyrfa

Amdanom ni

Mae Tregyrfa yma i'ch helpu i ddarganfod y cyfoeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal. Gyda mwy na 350 o rolau ar gael, mae GIG Cymru yn lle cyffrous i ddatblygu eich gyrfa, p'un a ydych yn 16 neu'n 60 oed.

Oeddech chi'n gwybod...?

  • Roedd sylfaenydd y GIG yn Gymro – Aneurin Bevan
  • Ni yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru
  • Rydym yn darparu gofal iechyd i'r 3 miliwn o bobl sy'n byw yn y wlad 

Rydym yn helpu i wella ac achub bywydau ac ni allem wneud hynny heb ein pobl. Ac nid sôn am ein rolau clinigol yn unig yr ydym – fel meddygon a nyrsys. Ni allai'r GIG oroesi heb ei drydanwyr, cyfrifwyr a gweithwyr cymorth gofal iechyd ychwaith – a dim ond ychydig o'r rolau niferus eraill sydd ar gael yw'r rhain.

Mae arnom angen pobl sy'n dosturiol ac sydd am wneud gwahaniaeth. Mae pob un o'n pobl yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw poblogaeth Cymru'n heini ac yn iach.

O ddiddordeb? Gallwch fod yn sicr o ddewis eang o gyfleoedd gyrfa, pob un ohonynt yn heriol ac yn werth chweil.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Manage preferences