O leoliadau cymunedol i ysbytai, mae'r tîm deintyddol yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gadw cegau'r genedl yn iach ac yn rhydd o afiechydon.
Mae yna ystod eang o rolau ar gael o fewn y tîm deintyddol. Er enghraifft, cynnal archwiliadau a thriniaethau trwy rôl deintydd, hybu iechyd y geg a glanhau proffesiynol fel hylenydd deintyddol neu weithio mewn labordy i greu offer megis dannedd ffug (dannedd gosod) fel technegydd deintyddol.
Cymerwch olwg o amgylch yr adeilad i gael gwybod am yr ystod o yrfaoedd deintyddol sydd ar gael – daliwch ati i wenu.
Yn wybodus iawn ym maes iechyd y geg ac yn fedrus wrth berfformio amrywiaeth eang o driniaethau, yn aml gellir gweld deintyddion fel yr arweinydd o fewn y tîm deintyddol.
Mae deintyddion yn gyfrifol am gynnal amrywiaeth o archwiliadau a thriniaethau deintyddol ar oedolion a phlant - gan helpu cleifion i gadw eu cegau'n iach ac yn rhydd o afiechyd.
Gall triniaethau amrywio o dynnu dannedd oedolion a chwblhau triniaethau sianel y gwreiddyn, dylunio a darparu dannedd ffug i gleifion, llenwi dannedd a glanhau dannedd claf yn broffesiynol, trwy weithdrefn a elwir yn digennu a llathru.
Er mwyn cymhwyso, mae fel arfer yn cymryd o leiaf chwe blynedd o hyfforddiant, gan raddio gyda Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS) o'r brifysgol, ac yna cwblhau rhaglen hyfforddiant deintyddol sylfaenol dros flwyddyn wedi'i lleoli mewn practis deintyddol cymeradwy.
Gall deintyddion weithio ar draws ystod o leoliadau o bractis deintyddol cyffredinol i glinig cymunedol i weithio gydag ysbytai trwy gwblhau cyrsiau a chymwysterau pellach i arbenigo mewn maes penodol o ddeintyddiaeth, fel Orthodonteg.
Ymwelwch â gweddill y llawr hwn i ddysgu mwy am fywyd fel deintydd yng Nghymru!
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.