Gan ganolbwyntio ar ddeintyddiaeth ataliol, mae hylenyddion deintyddol yn chwarae rhan bwysig yn y tîm deintyddol, gan weithio'n agos ag aelodau eraill o'r tîm i helpu cleifion i gadw eu dannedd yn lân ac yn iach.
Gall hylenydd deintyddol lanhau'r dannedd a'r deintgig yn broffesiynol, darparu hwb i iechyd y geg a defnyddio deunydd selio rhychau ataliol (haen amddiffynnol) yn ogystal â fflworid i gryfhau dannedd oedolion a phlant.
I fod yn gymwys, rhaid hyfforddi am o leiaf blwyddyn i gwblhau diploma mewn hylendid deintyddol er mwyn gweithio fel hylenydd deintyddol cofrestredig.
Efallai y bydd hylenydd deintyddol wedyn yn dewis gweithio mewn practis deintyddol cyffredinol gan gyflawni gweithdrefnau arferol fel digennu a llathru a glanhau’r deintgig. Efallai y byddant hefyd yn dewis gweithio mewn ysbyty deintyddol neu leoliad clinig cymunedol lle gallant drin cleifion â chyflyrau’r geg fwy cymhleth a chlefydau’r geg lai cyffredin.
Ymwelwch â gweddill y llawr hwn i ddysgu sut beth yw bywyd fel hylenydd deintyddol yng Nghymru!
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.