Mae nyrs ddeintyddol yn aelod allweddol o fewn y tîm deintyddol. Ni fyddai deintyddiaeth yn digwydd heb y nyrs ddeintyddol.
Mae nyrs ddeintyddol yn gyfrifol am ddadheintio offer, sicrhau bod y feddygfa'n lân ac yn ddiogel ar gyfer y tîm deintyddol a chleifion, trefnu offer llawdriniaeth a chyfathrebu â chleifion mewn ffordd sy'n eu gwneud yn gartrefol ac yn eu helpu trwy eu triniaeth ddeintyddol.
Bydd nyrs ddeintyddol gymwysedig yn cwblhau diploma mewn nyrsio deintyddol er mwyn gweithio fel nyrs ddeintyddol gofrestredig yn y DU. Wrth wneud y diploma hwn, mae'n ofynnol iddynt weithio nifer o oriau mewn practis cyffredinol i ennill profiad ymarferol gwerthfawr. Ar ôl ennill eu diploma, efallai y bydd y nyrs ddeintyddol yn dewis gweithio mewn practis cyffredinol, mewn ysbyty deintyddol neu leoliad clinig cymunedol.
Mae sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tîm da yn hanfodol. Efallai y bydd y nyrs ddeintyddol yn dewis datblygu ei sgiliau trwy gwblhau cyrsiau a chymwysterau pellach. Wrth ddatblygu eu sgiliau efallai y byddant yn dysgu sut i gymryd pelydrau-x deintyddol neu i roi meddyginiaeth fflworid ar y dannedd i’w gryfhau fel rhan o ddyletswyddau estynedig.
Ymwelwch â gweddill y llawr hwn i ddysgu sut beth yw bywyd fel nyrs ddeintyddol yng Nghymru!
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.