Gan weithio’n agos gyda’r deintydd i gefnogi cleifion gyda phopeth o wella eu hymddangosiad i’w gallu i fwyta, mae’r technegydd deintyddol yn gyfrifol am wneud teclynnau i fynd yng nghegau cleifion fel dannedd ffug (dannedd gosod) a chapiau ar gyfer dannedd (coronau).
Mae yna dwy fath o rôl o fewn technoleg ddeintyddol, technegydd deintyddol a thechnegydd deintyddol clinigol:
did yw technegydd deintyddol yn gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion ac yn lle, yn derbyn argraffiadau neu ddata i greu'r offer angenrheidiol
fodd bynnag, mae rôl technegydd deintyddol clinigol yn eistedd rhwng technegydd deintyddol a deintydd, gan ddod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion i archwilio, asesu, trin, darparu cyngor a chynlluniau, addasiadau ac atgyweiriadau o dan bresgripsiwn cyffredinol y deintydd.
Mae'r ddwy rôl yn rhoi'r cyfle i weithio mewn labordai cyffredinol o fewn ysbytai lle mae offer ar gyfer achosion a chlefydau deintyddol mwy cymhleth yn cael eu creu.
Ymwelwch â gweddill y llawr i ddysgu mwy am fywyd fel technegydd deintyddol a thechnegydd deintyddol clinigol yng Nghymru!
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.