Yn aelod cynyddol bwysig o'r tîm deintyddol, mae therapyddion deintyddol yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gefnogi deintyddion i gyflawni'r rhan fwyaf o driniaethau arferol, yn ogystal â chael eu hyfforddi i gyflawni dyletswyddau hylenydd deintyddol.
Gall y rôl gynnwys llenwi dannedd, glanhau dannedd cleifion, yn ogystal â rhoi fflworid a selyddion ar ddannedd oedolion a babanod i helpu i atal pydredd dannedd. Maent hefyd yn gallu tynnu dannedd babanod a chynnal rhai triniaethau nerfol ar y dannedd.
Yn cynnwys cymysgedd o leoliadau astudio a chlinigol, bydd therapydd deintyddol cymwysedig yn cwblhau gradd israddedig tair blynedd mewn Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol (BSc).
Unwaith y bydd wedi cymhwyso, efallai y bydd therapydd deintyddol yn dewis gweithio mewn practis deintyddol cyffredinol gan gyflawni gweithdrefnau arferol fel digennu a llathru a llenwadau. Efallai y byddant hefyd yn dewis gweithio mewn ysbyty deintyddol neu leoliad clinig cymunedol, lle byddent yn trin cleifion â chyflyrau’r geg fwy cymhleth a chlefydau’r geg lai cyffredin.
Ymwelwch â gweddill y llawr hwn i ddysgu sut beth yw bywyd fel therapydd deintyddol yng Nghymru!
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.