CAREERSVILLE

Technegydd Fferyllfa

Sophia Hughes

Fy enw i yw Sophia ac rwyf yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd Bangor fel technegydd fferyllfa.

Sophia Hughes - Pharmacy Technician

Sophia Hughes - Pharmacy Technician

Rhoddais gais ymlaen am y rol hon oherwydd fy mod wedi cael profiad o weithio mewn lleoliad gofal iechyd, pam roeddwn yn gweithio yn ‘NHSDirect’. Roedd y rol wedi denu fi am ei fod yn gyfle I gael gyrfa cyffroes, wrth ddysgu a ennill cyflog. Roedd hwn yn angenrheidiol I mi gan fy mod yn fam I ddau o blant ifanc ac angen gweithio llawn amser. Mae pob diwrnod yn wahanol, wrth weithio gyda tim amlddisgyblaethol i gadarnhau fod cleifion yn cael y gofal gorau bosib.

Pam fyddech chi’n argymell y rol?

Mae’r rol technegydd fferyllfa yn amrywiol ac yn werth chweil. Wrth gwbwlhau y cwrs byddwch yn cael golwg ar wahanol andranau o fewn y Fferyllfa, fel eich bod yn cael blas ar ba adran sydd yn gweddu orau I chi. Fel enghraifft, mae’r adran aseptig yn ddeniadol I unigoliol sydd yn hoffi gwneud pethau efo’i dwylo, fel paratoi moddion ar gyfer chemotherapy. Ac ar y llaw arall, mae hefyd cyfle I wneud gwaith swydd gyda’r tim gwybodaeth feddyginiaethau, yn ateb ymholiadau a rhoi cyngor I gleifion a cyd-weithwyr dros E-bost neu ffon.

Be wnaeth ichi benderfynu ar y rol hon?

Penderfynais ar y swydd hon gan fy mod wedi gwneud gradd mewn Troseddeg yn gynharach ac wedi penderfynu yn erbyn gyrfa I wneud a hyn. Pam roeddwn yn gweithio yn ‘NHSDirect’ mi roedd yn amlwg I mi fy mod yn hoffi helpu eraill, ond nid yr oeddwn eisiau gweithio mor agos a chleifion a mae llawer o swyddi mewn gofal yn ei gynnwys. Os ydych chi fel fi, mae hon yn rol berffaith I chi allu gwenud gwahaniaeth I iechyd cleifion.

Pa gymwysterau byddwch angen a be fyddwch yn ei ennill?

Mae angen TGAU Mathemateg a Saesneg, C neu uwch i geisio am le ar y cwrs i fod yn dechnegydd Fferyllfa. Nid oes angen unrhyw brofiad mewn Fferyllfa er all hyn fod yn fantais.

Bydd rhaid cwblhau cwrs 2 flynedd gyda cyflog wrth ddysgu. Maen’n angenrheidiol eich bod yn gweithio hyn a hyn o oriau yn y ddwy flynedd er mwyn cael profiad, bydd hefyd angen ysgrifennu logiau dyddiadur ac ateb cwestiynau am bwnc penodol ar ddiwedd bob mis:

Wedi darfod y Diploma Lefel 3 NVQ mewn gwasanaethau Fferyllol a BTEC Lefel 3 Diploma mewn Gwyddoniaeth Fferyllol, byddwch yn mynd ymlaen i gofrestru fel technegydd fferyllol gyda Cyngor Fferyllol Cyffredinol (CFfC).

Ble allech chi weithio?

Mae cyfleuodd i weithio mewn wahanol lefydd ar ol cofrestu

  • Ysbyty – dwys a chymunedol
  • Carchar
  • Practis Fferyllfa Cymunedol
  • Meddygon teulu
  • Diwydiant
  • Addysg.