Mae technegwyr fferyllol yn aelodau medrus a hanfodol o'r tîm fferyllol sy'n rheoli'r cyflenwad o feddyginiaethau ac yn cynorthwyo fferyllwyr gyda gwasanaethau ymgynghorol i gleifion a'r cyhoedd. Gall hyn cynnwys darparu cyngor ar ffyrdd o fyw’n iachus neu helpu pobl i reoli cyflyrau - o frech yr ieir i bwysedd gwaed uchel, a chefnogi pobl wrth iddynt atal ysmygu!
Yn gweithio yn Shil Pharmacy, fferyllfa gymunedol annibynnol y GIG yng Nghwmbrân, yw Technegydd Fferyllol, Julie Morton. Mae Julie wedi bod yn gyfrifol am arwain y gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu yn y fferyllfa drwy gydol y pandemig gyda llwyddiant mawr.
Yng nghanol y pandemig COVID-19, cynhaliwyd y mwyafrif o wasanaethau cymorth dros y ffôn neu drwy ymgynghoriad fideo. Ychydig iawn o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb oedd yn gallu digwydd, ond ar gyfer rheini a oedd yn teimlo’n gyfforddus i ymweld â’r fferyllfa, roedd cleifion yn gallu siarad efo staff dros gownter tu ôl i gysgod perspex.
O fis Mawrth 2020–Mawrth 2021, cefnogodd Julie 10 claf ar y rhaglen Lefel tri Rhoi'r Gorau i Ysmygu gan ddefnyddio therapi disodli nicotin. Roedd saith o bob 10 claf wedi llwyddo i roi'r gorau iddi ar ôl y rhaglen 12 wythnos. Yn ogystal, roedd gan y fferyllfa ddau glaf ar y rhaglen a oedd yn llwyddiannus yn rhoi'r gorau i ysmygu gan ddefnyddio Champix. Mae Julie yn parhau i drin cleifion sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu.
Meddai Julie, "Rwy'n falch o fod yn rhan o'r gwasanaeth. Rwy'n mwynhau helpu pobl i gyflawni eu nodau - derbyniais flodau gan un o'n cleifion."
Ychwanegodd Julie, “Mae gan bawb rheswm gwahanol i roi’r gorau i ysmygu, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt fel arfer yn gysylltiedig ag iechyd. Mae pobl yn meddwl y bydd yn amhosib rhoi'r gorau iddi, ond gyda'n cefnogaeth ni, maen nhw’n sylweddoli nad yw hi mor galed ag y maen nhw'n ei feddwl."