Mae'r Llyfrgell Sgiliau yn cynnwys adnoddau gyrfaoedd gwych gan gynnwys awgrymiadau a chyngor ar sut i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth am fyd gwaith.
Y tu mewn mae adnoddau ar wirfoddoli a phrofiad gwaith yn ogystal ag awgrymiadau ar ysgrifennu amdanoch chi'ch hun a sut i wneud argraff dda mewn cyfweliad. Gallwch ddysgu am nodi a datblygu'r sgiliau trosglwyddadwy holl bwysig hynny a chewch gipolwg gwerthfawr ar sut i baratoi ar gyfer gyrfa yn y GIG yn ogystal â gofal.
Yma fe welwch y gyfres Byddwch y gorau y gallwch chi fod, sy'n cynnwys fideos ar gyfweliadau ac awgrymiadau ymgeisio.