Claire ydw i, ac rydw i wedi bod yn fydwraig ers dros un ar bymtheg o flynyddoedd. Fe ddechreuais i hyfforddi pan oeddwn i’n bedair ar bymtheg oed. Ar ôl cwblhau fy hyfforddiant, fe wnes i gais llwyddiannus am swydd yn Ymddiriedolaeth Bae Abertawe, lle gwnes i feithrin profiad helaeth iawn o fewn gwahanol leoliadau gofal.

Claire Midwife Sonographer
Gweithiais fel rhan o'r tîm craidd ar uned esgor, gan ddarparu gofal un i un i fenywod a'u teuluoedd. Bûm hefyd yn gweithio ar y wardiau, gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy'n darparu gofal i nifer o gleifion. Fe chwiliais i am gyfleoedd i weithio yn y gymuned, gan reoli fy llwyth achosion fy hun a mynd i enedigaethau yn y cartref.
Ar ôl tair blynedd, fe ddefnyddiais i fy nghymwysterau i gael swydd yn gweithio fel bydwraig mewn ysbyty preifat yn Dubai. Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn i’n gweld colli gweithio i’r GIG a phopeth mae’n ei gynrychioli.
Fe symudais yn ôl i Brydain ac roeddwn i’n ffodus i gael swydd fel bydwraig yn ôl yn y GIG. Ers hynny, rydw i wedi gweithio mewn meysydd bydwreigiaeth arbenigol, megis meddyginiaeth y ffetws. Byddai hyn yn golygu helpu ymgynghorwyr ym maes meddyginiaeth y ffetws i sganio cleifion a oedd wedi’u hatgyfeirio, a helpu gyda thriniaethau in-utero fel trallwysiadau gwaed y ffetws a llawdriniaethau laser mewn achosion o syndrom trallwyso gefell-gefell. Yn ystod y cyfnod hwn y datblygais i ddiddordeb mewn sonograffeg.
Rydym yn wasanaeth newydd sy'n darparu sganiau uwchsain i fonitro twf, i fenywod sydd wedi'u nodi mewn perygl o gael babi bach ar gyfer oedran beichiogrwydd (SGA). Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i ddatblygu yn Ymddiriedolaeth Bae Abertawe gyda’r nod o leihau cyfradd ein marw-enedigaethau, gan fod ymchwil wedi dangos yn glir bod babanod SGA yn wynebu risg uwch o farw-enedigaeth.
O ddydd i ddydd, rydyn ni’n cynnal clinigau sy’n rhoi cyfres o sganiau twf i’r menywod sydd â risg o fod â baban SGA, yn ogystal â gweld menywod sy’n cael eu hatgyfeirio ar y diwrnod oherwydd pryderon dros dwf eu babi.
Rydyn ni hefyd yn rhoi hyfforddiant i aelodau eraill o staff yn yr ymddiriedolaeth i ganfod achosion o fabanod SGA, ac yn rhoi addysg am y gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig.
Mae bydwreigiaeth yn yrfa mor ddiddorol, gyda nifer o opsiynau i ehangu eich gwybodaeth mewn swyddi bydwreigiaeth arbenigol. Mae’n wych bod yn rhan o bob math o waith ymchwil ar hyn o bryd yn y maes bydwreigiaeth, sy’n golygu bod ymarfer bydwreigiaeth yn esblygu o hyd, ac mae’n sicrhau ein bod ni’n rhoi gofal diogel ac effeithiol i’n cleifion.
Rydw i wrth fy modd â’r ffaith bod bydwreigiaeth yn newid o hyd. Rydw i’n mwynhau gweithio gyda’r gwahanol deuluoedd rydw i wedi’u cwrdd ac wedi gofalu amdanyn nhw, ac yn mwynhau cael cyfle i gael effaith gadarnhaol ac i newid eu bywydau er gwell. Mae hi’n fraint ac yn anhygoel cael gyrfa sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau cynifer o bobl.