CAREERSVILLE

Cyflwyniad I: Gofal Cymdeithasol A Gofal Plant

Articles

I'r person cywir, yn y rôl gywir, mae gweithio mewn gofal yn yrfa i ymfalchïo ynddi.

Ydych chi'n mwynhau gweld pobl yn cael y gorau o bob dydd ac yn cyflawni'r hyn maen nhw ei eisiau mewn bywyd? Dyma hanfod gyrfa mewn gofal!

Gallai olygu gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc neu oedolion pan fydd angen cymorth ychwanegol arnynt. Yn wir, gall gyrfa mewn gofal olygu cefnogi pobl o bob oed.

O waith cymdeithasol i ofal plant, trefnu gweithgareddau mewn cartref gofal i ddarparu gofal personol yng nghartref rhywun. Mae amrywiaeth eang o rolau o fewn y sector.

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol

Mae Gofalwn Cymru yn cynnig hyfforddiant i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio ym maesgofal cymdeithasol. Mae’r rhaglen ar-lein am ddim dros gyfnod o dridiau ar gael i unrhyw unsy’n byw yng Nghymru. Mae’n ymdrin â’r hanfodion sydd eu hangen i ddechrau gweithio ymmaes gofal cymdeithasol, fel cyfathrebu, diogelu, ac iechyd a diogelwch.

Symudwch o amgylch yr adeilad i ddarganfod mwy am weithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant.

Dolenni defnyddiol: