CAREERSVILLE

Gweithiwr Cymdeithasol

Amy Davies

Fy enw i yw Amy ac ymunais â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel Gweithiwr Cymdeithasol oherwydd mae pob diwrnod yn wahanol ac yn bwysig. Er bod adegau pan fyddaf yn gweithio gyda theuluoedd ar yr adegau anoddaf yn eu bywydau, gwelaf hefyd y canlyniadau sy'n cael eu cyflawni a phlant a theuluoedd yn symud ymlaen yn gadarnhaol. Mae Gwaith Cymdeithasol yn alwedigaeth ac nid yn yrfa i mi. Rwy'n teimlo ymdeimlad o foddhad a phwrpas na allai unrhyw swydd arall fodloni. 

Amy Davies - Social Worker

Amy Davies - Social Worker

Sut mae diwrnod gwaith arferol yn edrych i chi?  

Mae pob diwrnod yn wahanol. Diwrnod arferol yw gwirio e-byst a'r system ar gyfer unrhyw wybodaeth neu bryderon diogelu sydd wedi ymddangos dros nos. Cynnal ymweliadau, gall hynny fod yn ymweliadau amddiffyn plant, ymweliadau plant sy'n derbyn gofal ac ymweliadau asesu. Gweithio gyda phlant i'w helpu i ddeall eu taith bywyd, gweithio gyda theuluoedd i asesu'r hyn sy'n bwysig iddynt a helpu i gefnogi teuluoedd drwy gyfnodau o argyfwng, gwaith mabwysiadu ac ar adegau ysgrifennu adroddiadau Llys ac asesiadau rhianta. 

Pam fyddech chi'n argymell y rôl?

Mae pob diwrnod yn wahanol ac mae pob diwrnod yn bwysig. Er bod adegau pan fyddaf yn gweithio gyda theuluoedd ar yr adegau anoddaf yn eu bywydau, gwelaf hefyd y canlyniadau a gyflawnir a phlant a theuluoedd yn symud ymlaen yn gadarnhaol. 

Mae Gwaith Cymdeithasol yn alwedigaeth ac nid yn yrfa i mi. Rwy'n teimlo ymdeimlad o foddhad a phwrpas na allai unrhyw swydd arall fodloni. 

Beth wnaeth i chi benderfynu ar y rôl?  

Cefais fy magu mewn gofal maeth ac rwyf hefyd wedi bod yn ofalwr maeth fy hunain am 17 mlynedd. Gwaith Cymdeithasol fu fy mreuddwyd erioed ond roeddwn i'n meddwl nad oedd modd ei gyflawni gan nad oeddwn yn academaidd ac nad oedd gennyf y cymwysterau TGAU perthnasol. Mewn gair, nid oeddwn yn meddwl fy mod yn ddigon peniog. Fodd bynnag, er gwaethaf cael diagnosis o Ddyslecsia a mynychu chwe ysgol wahanol yn ystod fy mhlentyndod, gwyddwn y byddai fy angerdd am waith cymdeithasol yn fy nghario drwodd a byddwn yn cyrraedd fy amcan. 

Pa gymwysterau oedd eu hangen arnoch? 

Cefais Radd C mewn TGAU Saesneg, fe wnes i gwrs mynediad hefyd er mwyn cael TGAU mathemateg. Yna, gwnes Radd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol ac rwy'n falch o ddweud fy mod wedi pasio pob arholiad, traethawd a lleoliad unigol i safon uchel. 

Pam ydych chi'n mwynhau eich rôl?  

Rwy'n caru fy swydd yn llwyr, mae'n wahanol bob dydd ac rwy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd ar adegau anghenus iawn iddynt. Rwyf wrth fy modd yn gweld y canlyniadau cadarnhaol ac yn gallu cau achosion gan wybod bod teuluoedd wedi cael y cymorth gorau y gallaf ei roi a'r gwasanaethau a nodwyd i sicrhau bod newid yn cael ei gynnal. 

Pa sgiliau allweddol sydd eu hangen i wneud eich rôl yn dda?  

Sgiliau ymorol, gofalgar, sylwgar, dadansoddol, y gallu i reoli deinameg teuluol cymhleth, y gallu i weithio gydag argyfwng, y gallu i reoli aelodau teulu gelyniaethus a dig, y gallu i barhau i ganolbwyntio ar y plentyn ac yn anad dim i fod yn onest, yn wrth-ormesol yn fy ymarfer ac yn barod i fynd yr ail filltir. 

Beth yw'r rhan orau o'ch swydd? 

Y rhan orau o'm swydd yw fy mod wrth fy modd gyda fy swydd, rwy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd pan fyddent yn anghenus iawn. Rwyf wrth fy modd yn gweld y canlyniadau cadarnhaol ac yn gallu cau achosion gan wybod bod teuluoedd wedi cael y cymorth gorau y gallaf ei roi a'r gwasanaethau a nodwyd i sicrhau bod newid yn cael ei gynnal. 

Pa sgiliau sydd eu hangen ar bobl i fod yn Weithiwr Cymdeithasol da?  

Sgiliau ymorol, gofalgar, sylwgar, dadansoddol, y gallu i reoli deinameg teuluol cymhleth, y gallu i weithio gydag argyfwng, y gallu i reoli aelodau teulu gelyniaethus a dig, y gallu i barhau i ganolbwyntio ar y plentyn ac yn anad dim i fod yn onest, yn wrth-ormesol yn fy ymarfer ac yn barod i fynd yr ail filltir. Y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch i fod yn Weithiwr Cymdeithasol yw Sgiliau ymorol, gofalgar, sylwgar, dadansoddol, y gallu i reoli deinameg teuluol cymhleth, y gallu i weithio gydag argyfwng, y gallu i reoli aelodau teulu gelyniaethus a dig, y gallu i barhau i ganolbwyntio ar y plentyn ac yn anad dim i fod yn onest, yn wrth-ormesol yn fy ymarfer ac yn barod i fynd yr ail filltir. 

Pam wnaethoch chi ddewis y llwybr gyrfa hwn? 

Dewisais y rôl hon oherwydd cefais fy magu mewn gofal maeth ac rwyf hefyd wedi bod yn ofalwr maeth am 17 mlynedd. Mae Gwaith Cymdeithasol bob amser wedi bod yn freuddwyd i mi gan fy mod wedi gweithio gyda nifer o weithwyr cymdeithasol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fy mywyd.  Roeddwn yn meddwl nad oedd modd ei gyflawni gan nad oeddwn yn academaidd ac nad oedd gennyf y cymwysterau TGAU perthnasol. Mewn gair, nid oeddwn yn meddwl fy mod yn ddigon peniog. Fodd bynnag, er gwaethaf cael diagnosis o Ddyslecsia a mynychu chwe ysgol wahanol yn ystod fy mhlentyndod, gwyddwn y byddai fy angerdd am waith cymdeithasol yn fy nghario drwodd a byddwn yn cyrraedd fy nodau. Y peth rwy'n ei hoffi orau am fy swydd yw bod pob diwrnod yn wahanol ac rwyf wrth fy modd yn helpu teuluoedd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w plant.