CAREERSVILLE

Gweithiwr Cartref Gofal

Mike Williams

Mike Williams ydw i ac fe wnes i ymuno â Cartrefi Cymru fel Gweithiwr Cymorth gan fy mod i wedi bod mewn diwrnod agored gyda’r cwmni pan oeddwn i allan o waith.

Mike Williams - Care Home Worker

Mike Williams - Care Home Worker

Beth yw'r peth gorau am eich swydd?  

Y peth gorau am fy swydd yw helpu cleientiaid i fod yn hapus yn eu cartref eu hunain a rhoi gwên ar eu hwynebau. 

Beth wnaeth i chi benderfynu ar y rôl?   

Dewisais y rôl hon am nad oeddwn yn gweithio ar y pryd. Dydw i erioed wedi edrych yn ôl am ei fod yn rhoi cymaint o foddhad. Gall fod yn heriol, ond rydych chi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Y peth rydw i’n ei hoffi orau am fy swydd yw rhoi gwên ar wynebau cleientiaid, bod yn hapus ac yn falch ar ôl fy shifft, teimlo fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth i’r rheini rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw. 

Pam ydych chi’n mwynhau eich rôl?   

Rydych chi’n dal i ddysgu ni waeth ers faint rydych chi wedi bod yn y swydd, byddwch bob amser yn barod i ddysgu pethau newydd. 

Pa sgiliau allweddol sydd eu hangen i gyflawni eich rôl yn dda? 

I fod yn ofalwr da, mae angen i chi fod yn amyneddgar, rydych yn dysgu pethau newydd bob dydd. Mae sgiliau bywyd yn bwysig hefyd, rydw i bob amser yn trin pobl yn y ffordd y maen nhw eisiau cael eu trin a’r ffordd y byddwn i am gael fy nhrin pe bai angen gofal arna i ryw ddydd (gobeithio na fydd hynny am amser maith).  

Y sgiliau allweddol sydd ei hangen arnoch i fod yn ofalwr yw gallu gwrando ar bobl. Bod yn hyblyg gyda phatrymau gweithio. Helpu pobl i roi gwên ar eu hwynebau.