Fy enw i yw Hannah Pearson ac fe wnes i ymuno â chartref gofal Llys Elian fel cydlynydd gweithgareddau gan fod hynny’n her newydd a oedd yn defnyddio fy ngradd mewn celfyddyd.
Unigolion hŷn sy’n byw gyda dementia.
Cynllunio a pharatoi gweithgareddau a chynnal/goruchwylio’r gweithgareddau hynny.
Mae’r cartref gofal yn cael ei redeg yn dda iawn ac yn amgylchedd da i fod ynddo yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion. Dewisais y rôl hon oherwydd fy mod eisiau gweithio yn y sector a defnyddio a datblygu fy sgiliau. Y peth rwy’n ei hoffi orau am fy swydd yw treulio amser gyda gwahanol bobl.
Rwy’n defnyddio fy sgiliau celf bob dydd i gyfoethogi bywydau pobl eraill. Rhan orau fy swydd yw gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a dod â llawenydd iddynt.
I fod yn gydlynydd gweithgareddau da, mae angen y sgiliau hyn arnoch chi; dyfeisgarwch, creadigrwydd, sgiliau pobl, bod yn annwyl a threfnus.
Mae’n werth chweil ac rydych chi’n cael llawer o hwyl bob dydd.