CAREERSVILLE

Gwarchodwr Plant

Amanda Calloway

Amanda Calloway ydw i ac rydw i wedi bod yn Warchodwr Plant Hunangyflogedig yng ngogledd ddwyrain Cymru ers 2007. Rydw i’n gweithio ar fy mhen fy hun ac fel arfer rydw i’n darparu gofal i dri o blant dan 5 oed bob dydd. Er bod fy nghofrestriad yn caniatáu i mi ofalu am fwy o blant, dyma’r grŵp oedran o blant y mae’n well gen i weithio gyda nhw.

Amanda Calloway - Childminder

Amanda Calloway - Childminder

Does dim dau ddiwrnod yr un fath, ond ar lefel syml iawn, rwy’n darparu’r holl ofal sydd ei angen ar blentyn drwy gydol yr amser y mae gyda mi, gan gefnogi ac ymestyn ei ddysgu a’i ddatblygiad. Mae fy lleoliad yn cael ei arwain gan y plentyn felly does gen i ddim cynlluniau penodol ar gyfer pob diwrnod. Yr hyn a wnaf yw dilyn arweiniad pob plentyn a darparu cyfleoedd iddynt yn dibynnu ar eu diddordebau a’u hoedran a’u cam datblygu. Rydw i wrth fy modd gyda hyblygrwydd fy rôl a’r gallu i newid ein cynlluniau yn dibynnu ar amgylchiadau. Efallai y bydd hi’n haul braf pan fyddaf yn deffro felly byddwn ni’n gwneud picnic ac yn mynd allan i’r traeth neu safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lleol.  

Roedd fy mywyd cyn gwarchod plant yn wahanol iawn ac roeddwn yn gweithio yn y diwydiant ariannol. Rôl lle doeddwn i byth yn teimlo’n hapus nac yn fodlon. Pan aned fy mab ieuengaf, cefais fy mherswadio gan fy ngwarchodwr plant fy hun i fentro a rhoi cynnig ar warchod plant.   

Fy mwriad bob amser oedd iddi fod yn swydd tymor byr tra bod fy mab yn dal yn fach. Yr hyn nad oeddwn i’n ei ddisgwyl oedd cymaint roeddwn i’n mwynhau treulio amser gyda’r plant yn fy ngofal a bod yn fos arnaf fy hun. Mae’r ymdeimlad o falchder wrth gael busnes llwyddiannus yn enfawr.   

Mae gofalu am blant wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi yr wyf yn ddiolchgar iawn amdanynt. Treuliais chwe blynedd fel Ymddiriedolwr ar Fwrdd Cyfarwyddwyr PACEY (Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar) a roddodd gipolwg amhrisiadwy i mi ar gyd-destun ehangach y sector gofal plant. Rwyf hefyd wedi gallu manteisio ar lawer o gyfleoedd parhaus i ddatblygu ymarfer, gan gynnwys Lefel 3 a Lefel 5. Yn 2014, graddiais o Brifysgol Glyndŵr gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar. Ni chefais y cyfle i fynd i’r Brifysgol ar ôl yr ysgol felly roedd mynd yno yn fy mhedwardegau yn gyflawniad pendant.   

Allwn i ddim dychmygu gwneud unrhyw rôl arall. Rwy’n codi bob dydd ac yn awyddus i ddechrau gweithio ac mae’r plant yn fy ngofal yn dod â chymaint o bleser i fy mywyd. Mae’n fraint enfawr cael pobl yn ymddiried ynoch i ofalu am eu plant ac mae’n rôl rwy’n mwynhau ei gwneud hyd eithaf fy ngallu. Mae gwylio’r cyffro a’r llawenydd ar wynebau’r plant wrth iddynt brofi pethau newydd a datblygu sgiliau newydd yn rhywbeth amhrisiadwy. Mae’n waith caled ond mae’r manteision yn sicr yn werth chweil.   

Mae perthynas gadarnhaol gyda rhieni a rhanddeiliaid eraill yn hanfodol bwysig felly mae sgiliau cyfathrebu yn fantais bendant. Mae angen i chi hefyd fod yn drefnus a gwybod lle i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir er mwyn gallu rhedeg busnes bach yn effeithiol. Mae cymaint o gymorth a chefnogaeth ar gael fel ei bod yn hawdd rhoi mesurau ar waith i sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i reoliadau ac i’r sector yn ei gyfanrwydd.