CAREERSVILLE

Nyrs Ddeintyddol Yn Gwneud Gwahaniaeth Gwirioneddol Mewn Deintyddiaeth Gymunedol Yng Ngogledd Cymru

Shan Nash - Nyrs Deintyddol Yn Y Gymuned

Rwy’n Nyrs Deintyddol yn y Gymuned ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy’n gweithio yng Ngwasanaeth Deintyddol yn y Gymuned Gogledd Cymru yng Nghanolfan Ddeintyddol Wrecsam, gan gynnal clinigau a gwasanaethau cymunedol a gyflwynir yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Shan Nash

Shan Nash

Rydym ni’n wasanaeth sy’n seiliedig ar atgyfeiriadau i gleifion y mae angen triniaeth ddeintyddol fwy arbenigol arnynt. Mae hyn yn cynnwys: oedolion a phlant mae angen gofal deintyddol arbenigol arnynt, megis y rhai hynny ag amrywiaeth o anableddau a chymhlethdodau meddygol; oedolion a phlant ag amgylchiadau cymdeithasol sy’n eu gwneud nhw’n agored i niwed, a gwasanaethau tawelu ar gyfer cleifion ffobig gan ddefnyddio tawelyddion anadlu a thawelyddion mewnwythiennol yn ogystal â gwasanaeth anaesthetig cyffredinol. 

1. Pa sydd wedi’i gynnwys yn eich rôl? 

Fy mhrif rôl yn y gwasanaeth yw cydlynydd anaesthetig cyffredinol. Rwy’n ymgysylltu ag Ysbyty Maelor i ddarparu gwasanaeth i blant lle mae angen tynnu sawl dant dan anaesthetig cyffredinol oherwydd na allant oddef triniaeth yn y ddeintyddfa.

Yn ystod fy wythnos waith, rwyf yn cwrdd â chleifion y mae angen asesiad deintydd arnynt yn y Ganolfan Ddeintyddol i lunio cynllun triniaeth gydsyniol. Pan fyddwn ni wedi gwneud hyn, rwyf yn paratoi’r ffordd iddynt gael eu gweld mewn cyd-destun ysbyty. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys anesthetyddion, amserlenwyr theatr, staff theatr, wardiau plant a staff clinigiau asesu cyn llawdriniaeth i drefnu i’n rhestr fynd yn ei blaen. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, rwy’n trefnu’r atgyfeiriad ac apwyntiadau cyn y llawdriniaeth ac am anaesthetig ar systemau’r ysbyty. Pan fydd yr apwyntiadau cyn llawdriniaeth wedi’u cynnal, byddwn yn gweithio yn yr ysbyty unwaith yr wythnos i gwblhau’r driniaeth a gynlluniwyd. Yn ystod y driniaeth a gynlluniwyd, fy rôl i yw paratoi cyfarpar diogelu personol (PPE), offerynnau a deunyddiau angenrheidiol yn y theatr lawdriniaeth. Caiff hyn ei gwblhau drwy gydymffurfio â’r holl ganllawiau atal trawsheintio. Rwy’n cynorthwyo’r deintydd yn ystod y llawdriniaeth ac yn bwysicaf oll, yn rhoi sicrwydd i’r claf drwy gydol y broses. Gan nad yw llawer o’r plant wedi bod mewn ysbyty o’r blaen, mae’n bwysig cynnig amgylchedd diogel a thawel i’r plant oherwydd bod hyn yn cynnig y profiad gorau i’r claf. 

Mae fy nghyfrifoldebau eraill yn cynnwys bod yn nyrs tawelyddion. Rwy’n gweld cleifion sy’n oedolion y mae angen tawelyddion arnynt er mwyn cwblhau’r driniaeth ddeintyddol. Byddant yn cael apwyntiad ar gyfer asesiad cychwynnol i weld a yw tawelyddion yn addas iddynt. Yn ystod yr apwyntiad hwn, rydym ni’n trafod hanes meddygol a chymdeithasol i bennu eu haddasrwydd ar gyfer tawelyddion a sicrhau bod gofal priodol ar waith yn dilyn y tawelydd. Yn ystod y broses hon, byddaf yn gwneud arsylwadau ac yn rhoi cyfarwyddiadau ysgrifenedig a llafar cyn y llawdriniaeth ac ar ôl hynny, wrth fod yn warchodwraig a chefnogi cleifion.  Mae llawer o gleifion yn bryderus iawn am y driniaeth a bydd angen sicrwydd arnynt drwy fynd i’r afael â’u holl bryderon. Yn yr apwyntiad tawelydd, byddaf yn paratoi’r ddeintyddfa gydag offer a deunyddiau angenrheidiol, yn croesawu ac yn cyfarch y claf, yn cynorthwyo’r deintydd gyda gwaith gweinyddu’r tawelydd a monitro, cefnogi a gofalu am y claf drwy gydol yr apwyntiad.

2. Beth ydych chi’n mwynhaf mwyaf am eich swydd?

Cwrdd a thrin cleifion o bob cefndir cymdeithasol gwahanol a gallu cynorthwyo’r deintydd gyda thriniaeth ddeintyddol. Rwy’n mwynhau’r rhan ymarferol o drefnu a chyflwyno’r gofal gorau i gleifion. Cefnogi’r cleifion drwy gydol eu taith driniaeth a meithrin perthynas â chleifion drwy ddefnyddio’r sgiliau rhyngbersonol i annog amgylchedd tawel i wneud y driniaeth.  Yn bennaf oll, rwy’n mwynhau bod yn rhan o dîm perfformiad uchel.  Rwyf wedi cwrdd â llawer o gydweithwyr gwahanol dros y blynyddoedd, a bydd llawer ohonynt yn ffrindiau am oes.

3. Sut daethoch chi i’ch rôl bresennol?

Roeddwn i’n dymuno newid gyrfa a gwelais i’r swydd nyrs deintyddol dan hyfforddiant ar wefan swyddi GIG Cymru.  Gwnes i ychydig o ymchwil a gwneud cais ar-lein. Ers cymhwyso, rwyf hefyd wedi cael ardystiad swydd mewn Tawelyddion Effro. Mae llawer o dystysgrifau swydd eraill gallwch chi eu cael i ddatblygu i’ch gyrfa yn Nyrsio Deintyddol.

4. Pa fath o berson fyddai’n addas i’ch swydd chi?

Unigolyn cyfeillgar, trugarog sy’n gallu cydymdeimlo â chleifion sy’n dod o gefndiroedd cymdeithasol amrywiol ac a allai fod yn teimlo’n bryderus am driniaeth.  Mae sgiliau cyfathrebu ar lafar da yn hanfodol, ynghyd â doethineb a chyfringarwch. Rhaid eich bod chi’n ddisgybledig gan y byddwch chi’n gyfrifol am sicrhau safonau uchel o lendid a rheoli haint. Rhaid eich bod chi’n hapus yn gweithio fel rhan o dîm ac yn gweithio’n annibynnol.  Dylech chi fod yn chwilfrydig ac yn awyddus i ddysgu’r wyddoniaeth y tu ôl i ddeintyddiaeth, a bod yn barod i ddilyn y diweddaraf am safonau a chanllawiau’r Cyngor Deintyddiaeth Cyffredinol sy’n newid, a pharhau â’ch datblygiad proffesiynol. Yn olaf, dylech chi fod yn drefnus a meddu ar ymagwedd fethodolegol at eich gwaith.