CAREERSVILLE

Taith Nyrs Deintyddol I Fod Yn Un O Bobl Bwysicaf Deintyddiaeth Cymru

Kirstie Moons - Deon Deintyddiaeth I Ôl-raddedigion, Addysg A Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Rwyf yn gweithio mewn swyddfa ac nid wyf yn gweithio gyda chleifion mwyach. Mae fy rôl yn cynnwys cynnal a goruchwylio darpariaeth addysg a hyfforddiant i ôl-raddedigion ar gyfer y tîm deintyddiaeth yng Nghymru. Rwy’n gweithio gyda llawer o rhanddeiliaid a phartneriaid gwahanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Deoniaid Deintyddiaeth yng ngweddill y DU.

Kirstie Moons

Kirstie Moons

Pa sydd wedi’i gynnwys yn eich rôl?

Rwy’n gyfrifol yn benodol am ddatblygu a rheoli hyfforddiant ôl-raddedig, sylfaen, craidd ac arbenigol deintyddiaeth a chynnal addysg a hyfforddiant aml-broffesiynol ar gyfer holl gofrestryddion deintyddiaeth sy’n gweithio yng Nghymru. Mae’n rhaid i mi ystyried anghenion lleol a chanllawiau cenedlaethol y gall Llywodraeth Cymru/GDC eu cyhoeddi a’r cyfeiriad strategol a bennir gan Fwrdd neu Dîm Gweithredol Addysg a Gwella Iechyd Cymru.  Rwyf hefyd yn arwain gwaith datblygu strategaethau addysgol i fodloni’r galw cynyddol ac amrywiol ar y gwasanaeth, gan sefydlu polisïau â’r nod o hyrwyddo gofynion rheoli clinigol ar gyfer yr holl weithwyr deintyddiaeth sy’n gweithio yng Nghymru.

Beth ydych chi’n mwynhaf mwyaf am eich swydd?

Amrywiaeth y gwaith sy’n rhan o’r rôl a’r bobl rwyf yn gweithio gyda nhw, yn fewnol ac yn allanol. Rwyf yn ystyried fy hun i fod yn ffodus iawn i fod mewn sefyllfa lle gallaf wneud newidiadau a dylanwadu ar lefel genedlaethol a lleol sy’n gallu gwneud gwahaniaeth i’r gweithlu a gofal i gleifion.

Sut daethoch chi i’r rôl bresennol?

Dechreuais i fy hyfforddiant fel nyrs deintyddol (ND) yn yr ysbyty deintyddol ac yna cefais i sawl swydd wahanol yn yr ysbyty: ND cymwys, ND Uwch, Swyddog Hyfforddi ND, Rheolwr DN ac yn fwyaf diweddar, Rheolwr Cyfarwyddiaeth yr ysbyty deintyddol ac yna’r Gwasanaeth Deintyddiaeth yn y Gymuned. Yn dilyn hyn, gadewais i’r GIG a chymryd swydd yn y Ddeoniaeth, sef Prifysgol Caerdydd ar y pryd, fel Cyfarwyddwr Cysylltiol ar gyfer Addysg Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol (DCP) lle roeddwn i’n gallu dylanwadu ar gyfeiriad llifau gwaith a chyfarfodydd cenedlaethol, gan ddal sedd ar Bwyllgor Deintyddol Cymru.

Tra’r oeddwn i yn y rôl hon, ymunais i â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol fel Aelod Cyngor dros Gymru a gwnaeth hyn roi dealltwriaeth strategol ychwanegol i mi i’r tirlun a’r cyd-destun rheoleiddio. Roeddwn i’n cadeirio Bwrdd Polisi ac Ymchwil y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, gan gyfrannu at sawl maes gwaith strategol a chyflwyno mewn fforymau a digwyddiadau cenedlaethol amrywiol.

Pan drosglwyddodd y Ddeoniaeth i AaGIC, cafodd fy swydd ei hailenwi i gyfleu datblygiad y tîm deintyddol a bellach, fy nheitl oedd Cyfarwyddwr Cysylltiol Cynllunio a Datblygu Gweithlu’r Tîm Deintyddol a datblygais i ddealltwriaeth ddyfnach o lunio a chyfeiriad polisi cenedlaethol cyn, yn y diwedd, gwneud cais a chael y swydd Deon Deintyddiaeth i Ôl-raddedigion a ddechreuais i ym mis Ionawr 2021.                                                                                                        

Ar hyd y ffordd, rwyd wedi cwblhau cyrsiau ac addysg ôl-raddedig amrywiol i ddatblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau ymhellach. Rwyf hefyd wedi ymgymryd â rolau ‘allgyrsiol’ megis bod yn gynrychiolydd ar gyfer yr undeb, bod yn arholwr allanol, mentora a hyfforddi dysgwyr benywaidd mewn coleg chweched a bod yn is-gadeirydd corff llywodraethu ysgol, ymhlith eraill. Rwyf wedi cwblhau prosiectau ymchwil a ariennir ar y cyd â chydweithwyr, wedi cyflwyno mewn cynhadledd ymchwil ryngwladol ac wedi bod yn gydawdur papurau a gyhoeddwyd.  Rwy’n hoffi dysgu ac rwy’n hoffi pobl, ac mae hyn bob amser yn gyfuniad defnyddiol!

Pa fath o berson fyddai’n addas ar gyfer eich swydd chi?

Rhywun sy’n hapus i arwain ac sy’n gyffyrddus yn camu y tu allan i’r hyn sy’n gyfarwydd iddo. Person trefnus sy’n hoffi pobl ac sy’n gallu cyfathrebu’n dda gyda llawer o bobl wahanol ar lefelau gwahanol. Rhywun sy’n ymateb yn dda i straen a llwyth gwaith trwm ac sy’n gallu darllen llawer o ddeunydd yn gyflym. Rhywun sy’n hapus i wneud mwy ac sy’n dysgu o hyd (neu sy’n mwynhau’r hyn rydych chi’n ei wneud!).