TREGYRFA

Beth Sydd Ei Angen I Hyfforddi I Fod Yn Nyrs Ddeintyddol

Hannah Mykaela Price - Nyrs Ddeintyddol Dan Hyfforddiant

Mae fy hyfforddiant fel nyrs deintyddol wedi cynnwys gweithio am 3 blynedd mewn practis deintyddol cyffredinol ym Mhowys, canolbarth Cymru. Un diwrnod bob wythnos, byddwn yn mynd i Wrecsam bob dydd Mawrth ar gyfer addysgu academaidd a fyddai’n cyfrif tuag at fy nghymhwyster. Yn ystod pandemig Covid, cynhaliwyd yr addysgu hwn yn rhithwir. Fel arfer, mae’r hyfforddiant hwn yn cymryd 18 mis ond oherwydd y pandemig, cymerodd fy hyfforddiant i ychydig mwy o amser.

Hannah Mykaela Price

Hannah Mykaela Price

Beth ydych chi’n mwynhau mwyaf am eich cwrs?

  • trafodaethau â nyrsys deintyddol eraill am driniaeth wahanol neu fân-lawdriniaeth maent yn eu gwneud  
  • gallu siarad â thiwtoriaid os oes gennym ni broblemau/pryderon am ein hymarfer  
  • amgylchedd lle gellir lleisio barn  
  • gallu cyfathrebu â’r tiwtor unrhyw bryd am help gydag aseiniadau  
  • clywed arbenigwyr yn siarad am eu pynciau  
  • dysgu am ddyletswyddau estynedig gwahanol.

Beth wnaethoch chi i gael lle ar eich cwrs?

Cyn dechrau ar fy nghwrs, nid oedd gen i brofiad blaenorol o nyrsio deintyddol. Roeddwn i wedi gweithio fel rheolwr gwesty/caffi. Mae profiad blaenorol o nyrsio deintyddol yn amrywio o gwrs i gwrs, a bydd rhai pobl yn newydd i nyrsio a bydd rhai wedi gweithio mewn practis deintyddol am 9 mis. Pan fyddwch chi ar y cwrs, disgwylir i chi weithio o leiaf 3 dydd yr wythnos mewn deintyddfa yn gweithio’n glinigol.

Pa fath o berson fyddai’n addas i astudio eich cwrs?

Bydd angen i chi:

  • fod yn drefnus a chael ffocws oherwydd bod gwaith cartref ac adolygu ar ben nyrsio amser llawn
  • bod yn gallu gweithio fel rhan o dîm
  • cael perthynas weithio dda â’ch mentor (deintydd neu nyrs deintyddol uwch)
  • bod yn hyderus yn siarad â chleifion wrth roi cyngor am iechyd geneuol iddynt 
  • gallu gweithredu’n gyflym ac yn ddigynnwrf dan bwysau.