Rwyf yn gweithio mewn swyddfa. Fodd bynnag, mae llawer iawn o’m hamser yn cael ei dreulio’n ymweld â chartrefi gofal i addysgu staff gofal am ofal iechyd geneuol a sut y gallant helpu i gynnal iechyd cegau a dannedd eu preswylwyr. Rwyf hefyd yn cefnogi staff ac yn darparu canllawiau fel y gallant gwblhau dogfennaeth genedlaethol mewn perthynas ag asesu risg a chynllunio gofal eu preswylwyr.
Mae’n rhoi boddhad mawr i mi y bydd yr hyfforddiant rydym ni’n ei gynnig yn cefnogi staff i ofalu am bobl eraill a gwella eu hiechyd geneuol. Fel Swyddog Hyrwyddo Iechyd Geneuol, rwy’n gweithio’n annibynnol ac yn paratoi adnoddau hyfforddi i ddiwallu anghenion y gynulleidfa. Mae’r hyfforddiant a ddarperir hefyd yn rhoi cefnogaeth a hyder i staff i gyflwyno iechyd geneuol mewn modd diogel ac effeithiol.
Hyfforddais i fel nyrs deintyddol, ac wedi ychydig o flynyddoedd yn gweithio mewn deintyddfa, cwblheais i’r cymhwyster Tystysgrif Iechyd Geneuol. Wedyn, des i i fod yn Swyddog Hyrwyddo Iechyd Geneuol ar gyfer Sir Gâr. Erbyn hyn, fi yw cydlynydd Designed to Smile ac yn gydlynydd Gwen am Byth ac rwy’n cyflwyno rhaglenni hyrwyddo iechyd geneuol i staff mewn cartrefi gofal, ysbytai, ac i staff addysgu a disgyblion ysgolion.
Byddai’r rôl hon fwyaf addas i berson sy’n hyderus yn sefyll o flaen pobl ac yn siarad â nhw. Mae angen sgiliau cyfathrebu er mwyn cyflwyno sesiynau hyfforddiant i amrywiaeth o bobl. Bydd angen i chi fod yn drefnus er mwyn i chi allu cynllunio eich dyddiau a gallu cydlynu eich gweithwyr cefnogi a fydd yn eich cynorthwyo wrth lunio deunyddiau hyfforddi ar gyfer y rhaglen. Byddwch yn gallu gweithio’n annibynnol ond hefyd fod yn rhan o’r tîm mwy.