CAREERSVILLE

Sut Brofiad Yw Astudio Hylendid Deintyddol

Curtis Whitehead - Myfyriwr Hylendid Deintyddol

Rwy’n astudio hylendid deintyddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys astudio, monitro a chyfyngu cynnydd statws periodontol cleifion drwy roi cyngor a sgiliau ymarferol. Mae gan y cleifion rydym ni’n eu gweld hylendid gwael neu hanes clefyd periodontol yn eu teuluoedd. Ein nod ni yw cyfyngu cynnydd y clefyd a chadw eu cegau yn y cyflwr gorau a sefydlogi'r clefyd. Rwy’n hyfforddi yn Ysbyty’r Mynydd Bach. Rwyf yn Ysbyty Dewi Sant ac Aberpennar ar leoliad.

Curtis Whitehead

Curtis Whitehead

Beth ydych chi’n mwynhau mwyaf am eich cwrs?

Y peth rwy’n ei fwynhau mwyaf yw rheoli cleifion. Golyga hyn feithrin perthynas o ymddiriedaeth â’r claf a datblygu cynllun triniaeth sydd orau i’r claf er mwyn gwella eu statws periodontal a rhoi hyder yn ôl iddo/i. Hefyd, rwy’n mwynhau dysgu am nodweddion anatomegol y benglog a’r holl nerfau. Roedd hyn yn anodd ar adegau ond unwaith y byddwch chi’n deall yr anatomeg, mae’r holl bethau ymarferol, megis rhoi anaesthetig lleol a thynnu cen yn dod yn hawdd iawn.

Beth wnaethoch chi i fyn di ysgol ddeintyddol?

  • 3 Lefel A mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg
  • 18 mis o nyrsio deintyddol. 

Pa fath o berson fyddai’n addas i astudio eich cwrs chi?

  • rhywun sy’n frwdfrydig iawn am wella bywydau pobl
  • rhywun sy’n onest ac sydd ag agwedd gadarnhaol
  • rhywun uchel ei gymhelliad ac sy’n dymuno dysgu pethau cyffrous a newydd 
  • rhywun nad yw’n hunanol ac sy’n gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm 
  • rhywun sy’n dwlu ar ddannedd
  • rhywun sy’n ymarferol.