Mae’r cwrs hylendid a therpi deintyddol yng Nghaerdydd yn ein galluogi ni i drin cleifion sy’n dod atom drwy sgrinio, yn ogystal â chleifion a atgyfeiriwyd atom drwy eu deintydd neu drwy driniaeth benodol. Yn gyntaf, byddwn yn dysgu ac yn ymarfer sgiliau clinigol ar bennau ffug, a wedyn yn ymarfer rhai o’r triniaethau ar ein gilydd. Hanner ffordd drwy’r flwyddyn gyntaf, byddwn yn gweld ein cleifion cyntaf, sy’n amser cyffrous i’r hjoll fyfyrwyr deintyddol! Ar wahân i’r ysbyty deintyddol yng Nghaerdydd, rydym ni hefyd yn gweithio gydag ysbytai eraill ledled Cymru, megis Dewi Sant ac Aberpennar, lle byddwn yn gwneud lleoliad ac yn cael profiad o leoliadau deintyddol gwahanol a ffyrdd o weithio.
Ar wahân i’r staff hynod gyfeillgar a chymwynasgar, fy hoff beth yw’r boddhad mae’r swydd yn ei roi. Mae gweld pa mor hapus yw'r cleifion ar ôl cael eu triniaeth yn gwneud yr holl sesiynau sgiliau clinigol, darlithoedd ac adolygu mor werthchweil!
Mae’r cwrs hwn yn gyfuniad perffaith rhwng gwyddoniaeth, celf a gwneud i bobl wenu, sef tri o’m hoff bethau.
Roedd fy nhaith i i’r ysgol ddeintyddol yn un hir iawn, ond un sy’n fy ngneud i’n falch iawn. Cymerodd 3/4 blynedd o geisiadau aflwyddiannus, gradd mewn technoleg ddeintyddol a diploma mewn nyrsio deintyddol i mi gael lle ar fy nghwrs dewisol o’r diwedd. Mae hylendid a therapi deintyddol n gwrs cystadleuol iawn, gan fod dim ond 10 i 15 lle’r flwyddyn ond mae fy nhaith i bendant yn profi bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed a ddylech chi byth rhoi’r gorau iddi.
Mae angen penderfyniad, ffocws a chymhelliad ar gyfer y tymor adolygu ac arholiadau Mae tosturi, empathi, gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu yn fy ngalluogi i i feithrin perthynas â’m cleifion a magu eu hyder a’u hymddiriedaeth ynof i. Yn ogystal, mae angen sgiliau defnyddio dwylo da, manylrwydd a’r gallu i ddefnyddio’r hyn a adolygwyd i gynnig triniaeth ddiogel a llwyddiannus i’m cleifion, gan gynyddu boddhad cleifion.