Mae fy rôl i’n hynod amrywiol. Mae’n cynnig heriau newydd bob dydd. Rwy’n gweithio ar draws tri safle ysbyty, sef Ysbyty Prifysgol y Faenor, Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Neuadd Nevill.
Yn y Faenor, fy rôl i yw meddyg geneuol a genol-wynebol cyntaf ar ddyletswydd. Dyma ble rwy’n gweithio sifftiau 12 awr dydd a nos.Fy swydd i yw gweld cleifion sy’n dod i’r adran achosion brys gyda phroblemau geneuol a wynebol, a’u trin a rhoi cyngor iddynt lle bo’n briodol. Os yw’n angenrheidiol, bydd angen triniaeth frys ar rai cleifion, megis y rhai hynny â thrawma neu broblemau gyda’r llwybrau anadlu lle mae’n bosib y bydd angen triniaeth mewn theatr ar frys. Yn ogystal, rwy’n gyfrifol am ofalu am ein cleifion ar y ward. Ar adegau gwahanol, efallai y byddaf yn y theatr, yn helpu gydag achosion oncoleg pen a gwddf cymhleth, neu'n gwneud llawdriniaeth ar gleifion y mae angen man-lawdriniaeth eneuol arnynt.
Caiff clinigau ymgynghori eu cynnal yn Ysbytai Neuadd Nevill ac Ysbyty Brenhinol Gwent hefyd. Yma, byddaf yn cynorthwyo meddygon ymgynghorol i weld cleifion sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan ddeintyddion a meddygon teulu drwy gymryd nodiadau trylwyr am eu hanes a chynllunio unrhyw archwilio pellach os bydd ei angen. Yn y sesiynau hyn, rydym ni hefyd yn gweld cleifion sy’n dod am archwiliadau rheolaidd.
I ddechrau, dechreuais i yn Ysbyty Brenhinol Gwent fel Hyfforddai Deintyddol Craidd (DCT) 2. Gwnes i gais am y rôl hon drwy Recriwtio Cenedlaethol. Oherwydd y pandemig, nid oedd y broses gyfweld arferol yn bosib gan nad oedd hi’n bosib trefnu cyfweliadau wyneb yn wyneb. Yn lle hynny, cymerodd pawb ran mewn Prawf Barn mewn Sefyllfa ar-lein a chawsom ein rhoi mewn trefn yn seiliedig ar hyn. Wedyn, roedd modd i’r holl ymgeiswyr Hyfforddiant Deintyddol Craidd 2 roi eu swyddi dewisol mewn trefn a chefais i gynnig swydd DCT 2 yng Nghasnewydd.
Ar gyfer fy mlwyddyn DCT, cafodd swyddi eu hysbysebu’n lleol ar gyfer hyfforddeion craidd. Gwnes i gais am y rôl DCT 3 a chefais gynnig ar ei chyfer yn dilyn y cyfweliad.
Yn y swydd, rydym ni’n gallu gweithio ar draws sawl safle ar amrywiaeth o glinigau gwahanol a rhestrau llawdriniaeth. Rwyf wrth fy modd gyda’r amrywiaeth mae hyn yn ei chynnig, ynghyd â'r cyfleoedd i weithio gyda’r tîm OMFS ehangach, yn ogystal ag arbenigeddau gwahanol wrth weithio yn y Faenor. Nid yw’r dysgu byth yn dod i ben a mwy na 18 ar ôl dechrau yn y rôl hon, rwy’n dal i deimlo bod y swydd yn fy ngwthio ac yn fy herio’n rheolaidd, ac fy mod i’n parhau i wneud cynnydd. Rwyf hefyd yn meddwl bod gweithio mewn adran gydag 8 aelod arall o staff iau yn cyfrannu’n fawr iawn at fwynhau’r swydd.
Mae ymdeimlad cryf o gwmnïaeth pan fyddwn yn gweithio drwy sifftiau ac wythnosau prysur fel tîm. Yn olaf, hoffwn i ddweud bod y rôl hon yn rhoi boddhad mawr. I gychwyn, mae llawer i’w deall a’u cofio ac mae sicrhau eich bod chi’n cadw i fyny gyda’r holl wybodaeth newydd yn waith caled iawn. Serch hynny, pan fyddwch chi’n dechrau ymgyfarwyddo, mae’r swydd yn rhoi boddhad mawr.
Rwy’n creu ei bod hi’n helpu i fod yn weithgar, yn gydwybodol ac yn drefnus fel hyfforddai craiff mewn OMFS. Fel deintydd sy’n gweithio mewn ysbyty, bydd llawer sy’n newydd a bydd llawer fyddwch chi ddim yn ei wybod. Mae gwneud y gwaith yn gynnar, dysgu o’ch camgymeriadau a gofyn am help pan fydd ei angen arnoch oll yn talu ar eu canfed yn y pen draw. Yn ogystal, gall cyfathrebu da, â chydweithwyr proffesiynol ac â chleifion fod yn ddefnyddiol iawn. Yn olaf, gall y sifftiau fod yn hir ac yn heriol, felly mae cael synnwyr digrifwch yn bwysig iawn!