CAREERSVILLE

Profiad O Fod Yn Fyfyriwr Deintyddol

Yasmin Aziz - Myfyriwr Llawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS) Ym Mhrifysgol Caerdydd

Yn bennaf, rwyf yn gweithio mewn ysbyty prifysgol deintyddol yng Nghaerdydd lle cynhelir y rhan fwyaf o’n darlithoedd a’n sesiynau labordy a chlinigol. Yn yr ysbyty deintyddol, rydym ni’n gwneud amrywiaeth eang o driniaethau megis tynnu dannedd, eu hadfer, triniaeth gwreiddiau’r dannedd a chreu dannedd gosod. Yn ogystal, mae gennym y cyfleoedd i wneud triniaethau dan dawelyddiad effro ac anaesthetig cyffredinol.

Yazmin Aziz

Yazmin Aziz

Hefyd, mae gan yr ysbyty deintyddol adran baediatreg ac orthodonteg lle rydym ni’n trin plant o bob oedran. Rwy’n gallu teithio i glinigau deintyddol allgymorth gwahanol yn ne Cymru, gan gynnwys Aberpennar, Merthyr a Chasnewydd i drin cleifion. Rydym ni’n dod ar draws amrywiaeth fawr o senarios clinigol drwy leoliadau gwahanol.

Yn ddiweddar, roeddwn i ar leoliad mewn gwasanaeth deintyddol cymunedol yn Wrecsam lle rydym ni’n trin plant a chleifion gofal arbennig. Yn ogystal, mae gennym ni leoliad llawdriniaeth enol-wynebol a geneuol mewn ysbytai amrywiol yng Nghymru a Lloegr. Yma, gallwch chi arsylwi triniaeth lawfeddygol fwy cymhleth. Ym mlwyddyn gyntaf y radd, byddwch chi’n cael eich lleoli yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yma byddwch yn dysgu am anatomeg, yn gwneud dyraniadau ac arbrofion labordy.  

Beth ydych chi’n ei fwynhau mwyaf am eich cwrs?

Rwyf wir yn mwynhau gallu rhyngweithio â chleifion a rhoi gofal a chymorth iddynt. Mae gallu lleihau poen neu anghysur sydd wedi bod yn poeni cleifion yn rhoi boddhad mawr. Rwyf hefyd yn mwynhau’r agwedd datrys problemau ar ddeintyddiaeth, sy’n cynnwys ystyried hanes meddygol cleifion, canfyddiadau clinigol a radiograffig a llunio cynllun triniaeth i leddfu eu poen a gwella eu hiechyd geneuol.

Mae amrywiaeth eang y triniaethau y gallwch chi eu gwneud hefyd yn rhywbeth a wnaeth apelio i mi. Rwy’n hoffi amrywiaeth deintyddiaeth a’r arbenigeddau gwahanol gallwch chi eu harchwilio megis prosthodonteg, endodonteg a llawdriniaeth eneuol.

Beth wnaethoch chi i fynd i astudio deintyddiaeth?

Ar gyfer Safon Uwch, astudiais i Fioleg, Cemeg a Daearyddiaeth. Roeddwn i wir yn mwynhau’r pynciau hyn ac roeddent yn berthnasol i ddeintyddiaeth. Gwnes i brofiad gwaith yn fy mhractis deintyddol cyffredinol, yn ogystal â lleoliad dydd yn ysbyty deintyddol Caerdydd, lle arsylwais i gleifion yn yr adran orthodontig a llawdriniaeth eneuol. Roedd hyn yn gyflwyniad gwych i’r arbenigeddau gwahanol ym maes deintyddiaeth, ac amrywiaeth y triniaethau sy’n cael eu darparu. 

Hefyd, treuliais i ychydig o amser mewn labordy deintyddol lle maent yn creu prostheses deintyddol, megis dannedd gosod. Roedd yn hynod ddiddorol gweld y rhain yn cael eu creu a’r sgiliau a oedd eu hangen i’w creu.

Gwirfoddolais i hefyd gyda St Johns Ambulance Cymru a Hospis Sant Catherine, a gwnaeth hyn roi gwell ddealltwriaeth i mi o ofal cleifion a gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol. Mae’n ddefnyddiol deall hyn gan fod deintyddiaeth yn broffesiwn sy’n gofyn am weithio mewn tîm.

Pa fath o berson fyddai’n addas ar gyfer astudio eich cwrs chi?

Byddwch yn mwynhau deintyddiaeth os ydych chi’n berson cyfeillgar sy’n canolbwyntio ar unigolion ac sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth a gofal iechyd ac sy’n mwynhau gofalu am bobl eraill. Mae deintyddiaeth yn gofal am lawer o oriau cyswllt a deunyddiau dysgu felly bydd angen i chi fod yn berson uchel eich cymhelliad a gallu rheoli eich amser yn dda.

Yn ogystal, mae hefyd ddatblygiadau parhaus o ran technolegau a deunyddiau deintyddol, felly mae’n rhaid eich bod chi’n berson sy’n mwynhau dysgu ac sy’n awyddus i wella eich sgiliau dros amser. Mae deintyddiaeth yn yrfa sydd wir yn canolbwyntio ar gleifion, ac felly mae sgiliau cyfathrebu da yn ddefnyddiol.

Byddwch chi hefyd yn gweithio gyda thîm deintyddol a allai gynnwys deintyddion eraill, hylenyddion deintyddol a therapyddion deintyddol felly mae’n rhaid eich bod chi’n gallu cydweithio ag eraill. Rwy’n credu y bydd rhywun sy’n mwynhau datrys problemau yn mwynhau’r heriau mae deintyddiaeth yn eu cynnig.