Rwy’n gweithio mewn practis orthodonteg modern, cynllun agored a phrysur yn Abertawe ac rydym ni’n gweld cleifion y GIG a phreifat o bob oedran.
Orthodonteg yw’r gangen o ddeintyddiaeth sy’n ymdrin yn bennaf â sythu dannedd pobl gyda fframiau dannedd gosodedig. Fel therapydd orthodontig, rwy’n trin achosion pobl dan 18 oed y GIG sydd dan bresgripsiwn orthodeintydd arbenigol.
Mae’r swydd yn rhoi boddhad mawr. Rydych chi’n cael ymdeimlad o wedi cyflawni rhywbeth a balchder wrth weld ein cleifion ifanc wrth eu boddau gyda’u gwenau newydd sbon. Rwy’n teimlo y gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr i hyder person ac rydych chi’n teimlo eich bod chi’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywydau.
Gweithiais i fel nyrs orthodeintyddol am flynyddoedd lawer cyn i’r cwrs fod ar gael.
Person gofalgar, trugarog a chyfeillgar gyda medrusrwydd dwylo da, sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm. Mae gallu dilyn cyfarwyddiadau ac ymfalchïo yn eich gwaith, ynghyd â sylw i fanylion, yn bwysig iawn.