TREGYRFA

Fywyd Fel Technegydd Deintyddol

Iola Rushton - Uwch-dechnegydd Deintyddol

Yr hyn rwy’n ei fwynhau mwyaf am fy swydd yw bod achos pob claf byddaf yn gweithio arno’n wahanol, felly mae’r swydd byth yn ddiflas.

Iola Rushton

Iola Rushton

Lle(oedd) gwaith:

Labordai Cynhyrchu, Ysbyty Deintyddol Prifysgol, Caerdydd.

Beth mae eich rôl chi’n ei gynnwys?

Ar hyn o bryd, mae gen i ddwy swydd yn yr adran. Yn ystod y tymor, mae fy rôl yn cynnwys addysgu a mentora myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y cwrs BSc technoleg ddeintyddol israddedig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.  Fel rhan o’r cwrs BSc, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â modiwlau lleoliad gwaith yn yr ysbyty i roi’r profiad angenrheidiol iddynt mewn creu teclynnau, gwaith adferol a phrostheses i gleifion.

Y tu allan i’r tymor, rwyf yn gweithio yn y labordy cynhyrchu lle yn bennaf, rwy’n brysur yn creu teclynnau prosthetig - mae enghreifftiau o declynnau’n cynnwys dannedd gosod acrylig, dannedd gosod fframwaith crôm cobalt a theclynnau sy’n codi cnoad. Gall technegwyr deintyddol naill ai weithio mewn ysbyty, fel fi, neu mewn labordy masnachol/preifat.

Ble bynnag byddwch yn gweithio, mae cyfathrebu rhyngoch chi a gweddill y tîm deintyddol (deintyddion, nyrsys, myfyrwyr, staff derbynfeydd etc) yn hanfodol er mwyn darparu’r driniaeth orau bosib i gleifion.

Beth ydych chi’n mwynhau mwyaf am eich swydd?

Yr hyn rwy’n ei fwynhau mwyaf am fy swydd yw bod achos pob claf byddaf yn gweithio arno’n wahanol, felly mae’r swydd byth yn ddiflas. Er enghraifft, efallai y byddaf yn creu 5 set wahanol o ddannedd gosod bob wythnos, ond bydd pob un yn wahanol i’r lleill mewn ffordd oherwydd bod danheddiad pawb yn wahanol. Mae gwybod fy mod i wedi chwarae rhan mewn help claf i gael set gyffyrddus o ddannedd gosod a gwên newydd yn rhoi boddhad mawr!

Sut daethoch chi i’ch rôl?

Pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd, roedd angen triniaeth orthodontig arna i i sythu fy nannedd. Byddwn i’n mwynhau mynd i’m hapwyntiadau oherwydd ei bod hi mor ddiddorol i mi gael gwybod y byddai fy nannedd yn symud yn raddol fach yn ystod cyfnod y driniaeth. Gwnes i gais am brofiad gwaith yn yr ysbyty pan oeddwn i’n 12 oed a gwnes i ei fwynhau’n fawr iawn.

Ar ôl hynny, dechreuais i ymchwilio i’r proffesiwn technoleg ddeintyddol ac ymweld â phrifysgolion lle gallwn i astudio i fod yn dechnegydd deintyddol. Ar yr adeg honno, dim ond Caerdydd a Manceinion a oedd yn cynnig gradd BSc mewn Technoleg Ddeintyddol. Dewisais i Brifysgol Caerdydd oherwydd bod ganddi berthynas agos â’r Ysbyty Deintyddol Prifysgol a’i bod hi’n cynnig lleoliad gwaith fel rhan o’r cwrs!

20 mlynedd yn ddiweddarach, rwyf yma o hyd! Ers graddio yn 2004, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i barhau â’m hastudiaethau drwy gwblhau MSc a PgC addysg uwch, a wnaeth fy ngalluogi i i ddringo ysgol y GIG.

Pa fath o berson fyddai’n addas ar gyfer y swydd hon?

Mae elfen greadigol i’r gwaith rydym ni’n ei wneud, felly os ydych chi’n mwynhau gweithio gyda’ch dwylo ac mae gennych chi lygad da am fanylion, gallai technoleg ddeintyddol fod yn rhywbeth i chi ei hystyried. Hefyd, dros y blynyddoedd diwethaf, mae technoleg Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur/Gweithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur (CAD/CAM) wedi datblygu’n enfawr, felly gallai hyn apelio i bobl sy’n mwynhau gweithio gyda chyfrifiaduron/TG.