Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o atal, diagnosio a thrin nifer enfawr o gyflyrau meddygol, yn ogystal ag adsefydlu cleifion.
Mae Gwyddonwyr Gofal Iechyd yn dylanwadu ar tua 80% o benderfyniadau clinigol ac yn chwarae rhan hanfodol yn y GIG yng Nghymru.
O brofi am firysau peryglus, darparu radiotherapi i gleifion canser neu ddylunio mewnblaniadau fel peiriannydd biofeddygol; mae datblygiadau cyflym mewn technoleg yn golygu bod y Gwyddorau Gofal Iechyd bellach yn un o feysydd mwyaf cyffrous, heriol a gwerth chweil y GIG i weithio ynddo.
Ewch o amgylch yr adeilad i gael gwybod mwy am wyddor gofal iechyd.
Dolenni defnyddiol:
Health Education and Improvement Wales (HEIW)
Ty Dysgu,
Cefn Coed,
Nantgarw,
CF15 7QQ
03300 585002
nhswalescareers@wales.nhs.uk