CAREERSVILLE

Radiograffydd Therapiwtig

Jennie Towell

Jennie ydw i, ac rwy’n radiograffydd triniaeth therapiwtig. Rwyf wedi gweithio mewn dwy ganolfan dros y naw mlynedd ers i mi gymhwyso: Roeddwn i’n gweithio yng Nghaergaint, canolfan loeren i Ganolfan Oncoleg Caint ac yng Nghanolfan Ganser Felindre (lle’r ydw i nawr).

Jennie Towell - Therapeutic Radiographer

Jennie Towell - Therapeutic Radiographer

Beth allwch chi ei ddweud wrthym am eich rôl fel radiograffydd? 

Yn yr adran, rydyn ni’n gofalu am amrywiaeth o gleifion sydd wedi cael gwahanol ddiagnosis canser. Fy mhrif gyfrifoldeb yw darparu triniaethau radiotherapi diogel. Mae’r cleifion rydyn ni’n eu trin yn amrywio o ran oedran. Roedd yr ieuengaf rwyf i wedi’i drin yn 18 mis a’r hynaf dros 100 mlwydd oed! Mae lleoliad pob claf ar ei lwybr triniaeth yn rhywbeth sy’n unigol i bob un hefyd. Mae llawer yn cael triniaeth gwella, ond mae gennym hefyd y fraint o helpu’r rheini sy’n dod at ddiwedd eu bywyd. Mae hyn wir yn fraint. 

A oes meysydd eraill rydych chi’n ymwneud â hwy? 

Yma yn Felindre rydyn ni’n ysbyty addysgu. Mae hyn yn golygu bod gen i gyfle i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o radiograffyddion therapi.  

Er mwyn sicrhau’r gofal a’r canlyniad gorau i’n cleifion, rydyn ni’n gweithio mewn timau, nid yn unig yn ein hadran ein hunain ond gyda’r holl grwpiau staff eraill yn yr ysbyty. 

Beth yw'r peth gorau am eich swydd? 

Y peth gorau am fy swydd yw gweld cynifer o wahanol bobl a chael y fraint o’u cefnogi drwy rai o’r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau. Mae gallu meithrin perthynas â nhw a’u helpu i ddod allan yr ochr draw i’w triniaeth a gwneud gwahaniaeth go iawn, yn rhoi cymaint o foddhad. 

Beth wnaeth i chi ddewis y llwybr gyrfa hwn? 

Fe wnes i ddewis yr yrfa hon gan fod fy nhad-cu wedi cael radiotherapi pan oeddwn yn iau. Roedd bob amser yn dweud pa mor hyfryd oedd y staff a sut roedden nhw’n gwneud iddo deimlo’n gysurus ac yn gyfforddus, yn ystod cyfnod heriol iawn. Roeddwn i’n dymuno gofalu am bobl fel hyn a gwneud y cysylltiadau hyn ar lefel real.  

Mae elfennau gwyddonol a thechnegol eraill i’n gwaith, ond y cleifion a’r tîm sy’n gwneud i mi deimlo bod fy swydd mor werth chweil.  

Beth yw eich gobeithion ar gyfer y dyfodol? 

Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i astudio gofal lliniarol hyd at lefel Meistr ac rwy’n gobeithio parhau â’m gwaith yn y maes hwn. Rwy’n teimlo’n angerddol dros wella ansawdd bywyd pobl ar ddiwedd eu hoes!