CAREERSVILLE

Uwch Radiograffydd Therapiwtig

Clare Coan

Dw i'n gweithio fel Uwch Radiograffydd Therapiwteg yn yr adran Radiotherapi yng Nghanolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd. Gwaith radiograffydd therapiwtig yw trin pobol sy'n dioddef o ganser gan defnyddio peledrau-x ynni uchel ac yn cefnogi nhw trwy'i triniaeth.

Clare Coan - Senior Therapeutic Radiographer

Clare Coan - Senior Therapeutic Radiographer

Gyda phwy ydych chi'n gweithio? 

Mae'r rhan fwyaf o'n cleifion yn cael eu triniaeth fel all-gleifion ac yn mynychu'r ysbyty pob diwrnod am gyfnod rhwng 1 a 7 wythnos. Hefyd, mae rhai'n cael trinaeth fel mewn-cleifion ac bydd rhaid i ni cydgysylltu a'r wardiau i ddod a'r claf am driniaeth radiotherapi. 

Diwrnod i ddiwrnod dwi'n gweithio mewn tîm bach o radiograffwyr eraill, ond rydyn ni'n cydweithio â aelodau o'r tîm amlddisgyblaethol'n cyson. 

Sut mae diwrnod gwaith nodweddiadol yn edrych i chi? 

Mewn diwrnod tebygol byswn i'n gwneud llawer o weithgareddau gwahanol, yn cynnwys sicrhau ansawdd dyddiol y peiriant radiotherapi (sef Linear Accelerator); darparu triniaeth radiotherapi, asesu sgil effeithiau, cwblhau unrhyw dasgiau gweinyddol yn perthyn i'r driniaeth e.e. cysylltu a meddygon neu adran Ffiseg, trefnu cludiant ambiwlans neu appwyntiadau clinig a gweund unrhyw  newidiadau angenrheidiol i'r triniaethau. 

Fel arfel mae gwaith Radiotherapi yn digwydd rhwng Dydd Llun i Ddydd Gwener, ond rydyn ni hefyd yn gwneud shifftiau ar y penwythnos ambell waith. 

Mae pob un diwrnod yn wahanol yn fy swydd i. Ar un foment gallwn i fod yn cyfrifo faint i addasu triniaeth i gyfrif am newidiadau anatomi mewnol ac yr un nesaf byddaf yn ymateb i gwesiwnau trallodus gan glaf. 

Pam wnaethoch chi ddewis y llwybr gyrfa hwn? 

Edrychais i ar yrfaoedd yn y gwasanaeth iechyd. Roedd y natur dechnegol, cynnwys Ffiseg a'r cyfle i helpu pobl wyneb i wyneb yn golygu fod Radiotherapi'n apelio i fi fel gyrfa. 

Yn dilyn  lefelau A mewn Almaeneg, Ffiseg, Economeg ac Astudiaethau Cyffredinol yn yr ysgol yn ogystal â BTEC Ffiseg, 

symudais o Gilgwri i astudio gradd BSc Radiotherapi ac Oncoleg ym Mrifysgol Caerdydd. 

A oes cyfleoedd i ddatblygu? 

Yn ogystal a'r swydd arferol mae digon o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau ychwanegol. Mae'n bosib i ddatbygu arbenigedd e.e. clinig assesu, ymchwil a datblygu, newidiadau technolegol neu gweithio mewn carfanau diddordeb arbennig.  

Mae'r gweithle'n annog i ni datblygu'n hunain wrth wneud cwrsiau. Dw i wedi gwneud modiwl lefel-ôl-raddedig mewn Addysg Oedolion, cymhwyster rheolaeth ac mae'r adran hyd yn oed wedi cefnogi fi i ddysgu'r Gymraeg. 

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch chi? 

Sgilau allweddol i fy rôl yw sylw i fanylion, sgiliau cyfathrebu cryf, sgiliau datrus problemau, hyblygrwydd a natur didaro. 

Pam fyddech chi'n argymell y rôl? 

Does yna ddim dau ddiwrnod yr un peth yn Radiotherapi - mae wastad rhywbeth newydd i ddysgu ac i brofi.  

Byddwn yn argymell y swydd i unrhywun sy'n awyddys i weithio mewn swydd amrywiol sy'n cyfuno sgiliau dadansoddol a sgiliau gofal. 

Mae e’n yrfa heriol a gwobrwyol, a baswn yn ei argymell yn gryf.