CAREERSVILLE

Gwyddonydd Fasgwlaidd

Ellie Blaxland

Beth mae fy swydd fel gwyddonydd gofal iechyd yn ei gynnwys?  

Rwyf yn sganio cleifion drwy ddefnyddio uwchsain er mwyn chwilio am broblemau yn rhydwelïau a gwythiennau’r corff. Mae hynny yn cynnwys sganio gyddfau, breichiau, abdomenau a choesau at nifer o ddibenion clinigol. Rwyf yn gweithio mewn tîm o saith o ffisegwyr meddygol, ac mae gan bob un rôl sydd ychydig yn wahanol. Rydym hefyd yn gwneud gwaith ymchwil ac yn cynnal archwiliadau er mwyn sicrhau bod ein hymarfer yn gyfredol ac mai dyna sydd orau i’n cleifion. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda llawfeddygon fasgwlaidd, radiolegwyr a nyrsys haematoleg arbenigol er mwyn gofalu am gleifion mewn modd amlddisgyblaethol. 

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich swydd?  

Rwyf wrth fy modd yn cyfuno fy ngwybodaeth wyddonol gyda gwaith clinigol. Mae gallu gweithio’n uniongyrchol â chleifion yn rhoi boddhad mawr i mi, a gall diagnosio problem roi boddhad mawr i’r cleifion ac i ninnau! Gall fod yn galed, ond mae yna bob amser rywbeth newydd i’w ddysgu a’i weld, ac mae’n sicrhau bod y gwaith yn wirioneddol ddiddorol. 

Beth yw eich uchelgeisiau gyrfa? Buaswn yn hoffi cwblhau fy PhD a chyfranogi mwy at ymchwil yn ein hadran. Rwyf hefyd yn mwynhau addysgu, felly yn y dyfodol efallai y byddaf yn ymwneud mwy â darlithio i fyfyrwyr prifysgol. 

Sut wnaethoch chi ymuno â’ch rôl?  

Mae gennyf radd israddedig mewn Gwyddor Biofeddygol Gymhwysol ac edrychais ar swyddi ble gallwn ddefnyddio fy ngradd ond y gallwn hefyd weithio gyda chleifion, a chanfod Gwyddor Fasgwlaidd. Llwyddais i gael hyfforddiant ‘mewn swydd’ a gwneud fy ngradd Meistr yn rhan amser, mewn ‘Uwchsain Meddygol gydag arbenigedd Fasgwlaidd’.    

Byddai’ch swydd yn gweddu i rywun sydd ...  

Rhywun sydd â meddwl gwyddonol ond sy'n mwynhau rhyngweithio wyneb yn wyneb â phobl o bob oed ac o bob cefndir. 

Rhywun sydd eisiau ymwneud ag ochr feddygol y GIG ond nad yw eisiau bod yn feddyg neu’n nyrs. Rhywun sydd yn mwynhau her ond sydd eisiau gadael y gwaith bob dydd yn teimlo’n falch o’r hyn maent yn ei wneud!