Yng Nghymru, mae Gweithwyr Porffesiynol Perthynol i Iechyd yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio grŵp o 13 o broffesiynau gofal ac iechyd gwahanol.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn gweithio ar eu pennau eu hunain gyda chleifion i ddatblygu therapïau rhyngweithiol i gynorthwyo adferiad. Maent hefyd yn gweithio fel rhan o dîm, gan weithio'n agos gyda rolau proffesiynol eraill gyda thimau iechyd a gofal. Gallai hyn olygu gweithio gyda Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd neu weithwyr proffesiynol eraill fel meddygon teulu, meddygon ysbyty, athrawon a / neu weithwyr cymdeithasol.
Mae pob Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn chwarae rôl wahanol ond yr un mor werthfawr wrth helpu pobl i wella ac i ddod yn symudol ac yn annibynnol eto. Nid ydyn nhw'n gweithio mewn ysbytai yn unig, maen nhw'n gweithio mewn clinigau, cartrefi gofal, carchardai, cartrefi pobl, ysgolion a cholegau i enwi ond ychydig.
P'un a oes gennych ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, y celfyddydau neu symud corfforol rydych yn sicr o ddod o hyd i rôl sy'n addas i chi. Pa bynnag broffesiwn a ddewiswch, byddwch yn ymgymryd â rolau sy’n ‘galluogi’ a ‘grymuso’ pobl, gan wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Mae hyn yn golygu helpu pobl i wneud pethau drostyn nhw eu hunain ac i gael rheolaeth dros yr hyn maen nhw'n ei wneud ac eisiau drostyn nhw eu hunain
Mae Therapïau Creadigol yn derm ymbarél ar gyfer proffesiynau gofal iechyd sy'n defnyddio'r celfyddydau creadigol a mynegiannol i wella lles seicolegol a chymdeithasol unigolion o bob oed a phob cyflwr iechyd. Mae'n fath o therapi sy'n defnyddio mynegiant di-eiriau fel celf neu gerddoriaeth fel modd i bobl gyfleu eu teimladau, meddyliau ac ofn a phryderon mewnol. Gall egluro sut rydych chi'n teimlo yn defnyddio geiriau fod yn anodd ac yn drawmatig iawn felly gall therapi creadigol helpu unigolion i gyfathrebu profiadau a'r hyn maent yn ei deimlo mewn ffyrdd eraill. Gall helpu unigolyn i ddisgrifio a deall ei feddyliau a'i deimladau ei hun pan yn cael problemau gyda'i iechyd meddwl.