Mae Therapyddion Cerddoriaeth, proffesiwn sy'n gofrestredig gyda'r HCPC, yn helpu "pobl y mae anaf, salwch neu anabledd wedi effeithio ar eu bywydau drwy gefnogi eu hanghenion ffisiolegol, emosiynol, gwybyddol, corfforol, cyfathrebol a chymdeithasol... drwy bŵer cerddoriaeth". Cymdeithas Therapyddion Cerdd Prydain (BAMT).
Mae'r erthygl ganlynol gan Dr Elizabeth Coombes yn rhoi cipolwg ar sut y gall therapi cerddoriaeth fod yn effeithiol o ran helpu plant a phobl ifanc sy'n byw gydag anhwylderau sy'n seiliedig ar bryder.
Yn ôl y GIG, mae cymaint ag un o bob wyth plentyn rhwng pump a 19 oed yn wynebu her iechyd meddwl. Ac mae nifer sylweddol o'r achosion hyn yn gysylltiedig â rhyw fath o bryder.
Wrth gwrs, gall rhywfaint o bryder neu boen meddwl fod yn sefyllfa arferol i bobl ifanc – yn enwedig wrth symud ysgolion, neu o gwmpas amser arholiadau. Ond i rai, gall gorbryder effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau bob dydd.
Un dull effeithiol o ddarparu cymorth ar gyfer y pryder hwn yw therapi cerddoriaeth, lle mae cerddoriaeth yn dod yn brif arf y mae'r therapydd yn ei ddefnyddio i gysylltu a gweithio gyda'r claf. Dangoswyd bod y math hwn o therapi yn effeithiol wrth drin plant a phobl ifanc sy'n byw gydag anhwylderau sy'n seiliedig ar bryder.
Wedi'r cyfan, mae llawer o bobl ifanc wrth eu bodd yn gwrando ar gerddoriaeth, a gall y dewisiadau cerddoriaeth a wnânt fod ynghlwm wrth eu hymdeimlad o hunan a hunaniaeth. Yn ystod cyfnodau o straen a phryder, mae ymchwil yn dangos bod gan bobl ifanc ymdeimlad cynhenid o'r mathau o gerddoriaeth y mae angen iddynt wrando arnynt.
Mae hefyd yn fath arbennig o hyblyg o therapi. Awgryma ymchwil y gall "ymrwymiad angerddol" pobl ifanc i ganeuon a genres o gerddoriaeth symud yn dibynnu ar y sefyllfa.
Gellid clywed trac fel Dancing With Our Hands Tied (Taylor Swift), er enghraifft, fel cân gariad, yna fel cân chwalu, ac yna eto fel cân o fuddugoliaeth a goroesiad.
Mae hyn yn dangos set gymhleth a hyblyg o ryngweithio emosiynol â cherddoriaeth, ac yn dangos sut y gall gynnig cymorth mewn sefyllfaoedd sy'n newid yn barhaus.
Mewn sesiwn therapi cerddoriaeth, gallai'r therapydd ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau hygyrch, fel drymiau, offerynnau taro bach a bysellfyrddau, yn ogystal ag apiau i lunio curiadau a dolenni, i wneud cerddoriaeth gyda'r plentyn neu’r person ifanc.
Mae ysgrifennu caneuon hefyd yn opsiwn da, efallai'n cymryd cân sy'n bodoli eisoes ac yn newid y geiriau i ffitio'r sefyllfa bresennol, neu gyfansoddi cân wreiddiol.
Pan oeddwn yn gweithio yn y GIG mewn cyfleuster i bobl ifanc ag anawsterau seicolegol, cefais gyfuniad o weithgareddau cerddorol strwythuredig a byrfyfyr yn ddefnyddiol – yn enwedig gyda'r rhai a brofodd bryder oherwydd natur anrhagweladwy sefyllfaoedd cymdeithasol.
Roedd defnyddio byrfyfyr mewn lleoliad diogel yn helpu gyda'r syniad o wneud pethau wrth i chi fynd ymlaen, a theimlo'n fwy cyfforddus gyda hyn fel cysyniad. I bob pwrpas, dyna sydd ei angen ar lawer o sefyllfaoedd cymdeithasol yn y bôn.
Mae manteision profedig eraill hefyd. Defnyddiodd treial clinigol o'r enw Music in Mind yng Ngogledd Iwerddon therapi cerddoriaeth i drin plant a phobl ifanc â phroblemau ymddygiadol ac anghenion iechyd meddwl yn unigol. Canfu welliannau mewn cyfathrebu, hunan-barch a gweithrediad cymdeithasol.
Gwelwyd canlyniadau cadarnhaol mewn astudiaethau eraill yn y defnydd cyfunol o therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) a therapi cerddoriaeth.
Yn ogystal â'i werth cefnogol, gall therapi cerddoriaeth helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau rheoleiddio emosiynol – y mecanwaith sy'n ein galluogi i weithredu yn ein bywydau bob dydd, gan reoli sefyllfaoedd anodd drwy addasu ein hymatebion emosiynol i ddigwyddiadau a theimladau.
Mae datblygu sgiliau rheoleiddio emosiynol yn allweddol i leihau'r risgiau o heriau seicolegol yn nes ymlaen, a gall ddechrau yn ystod plentyndod cynnar gyda chwarae cerddorol rhyngweithiol.
Yma, mae'r therapydd cerddoriaeth a'r plant yn chwarae gemau lle mae'r ddau yn cymryd eu tro i fod yn gyfrifol am y gerddoriaeth. Mae cael y cyfle i ddangos "stopio" a "mynd", yn ogystal â dewis a fydd y gerddoriaeth yn uchel neu'n feddal yn rhoi cyfle i'r plentyn weld sut mae'n teimlo bod wrth y llyw.
Maent hefyd yn gallu archwilio sut mae'r gwahaniaethau mewn cerddoriaeth yn gwneud iddyn nhw deimlo. Dangosodd astudiaeth Americanaidd gan ddefnyddio'r dull hwn welliant sylweddol mewn sgorau rheoleiddio emosiynol, gan awgrymu y gall defnyddio cerddoriaeth mewn gweithgareddau chwareus gael effeithiau cadarnhaol iawn ar blant ifanc.
Mae'n amlwg, felly, fod potensial ar gyfer sbectrwm ymarfer wrth ddefnyddio cerddoriaeth i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n byw gydag anhwylderau gorbryder.
Mae gwrando ar gerddoriaeth a ffefrir a defnyddio'r profiad hwnnw i archwilio teimladau a phryder cymedrol ar un pen i'r sbectrwm. Gall defnyddio cerddoriaeth yn gynnar mewn lleoliadau cyn-ysgol ac ysgol hefyd helpu i ddatblygu ER, gan feithrin gwydnwch mewn plant i ddigwyddiadau niweidiol mewn bywyd.
Os bydd anhwylderau'n datblygu, gellir defnyddio cerddoriaeth fel offeryn i archwilio emosiynau a gweithio tuag at ddeall, gyda therapi cerddoriaeth yn cael ei gynnig fel triniaeth i'r rhai sydd angen cymorth clinigol mwy penodol.
Felly efallai fod angen i bob un ohonom fod yn meddwl am y defnydd o gerddoriaeth wrth reoli gorbryder yn ein plant a'n pobl ifanc. Mae cyfoeth o dystiolaeth yn dod i'r amlwg o ran ei heffeithiolrwydd – y gallwn i gyd diwnio mewn iddo.