Deieteg yw'r astudiaeth wyddonol o'r bwyd y mae pobl yn ei fwyta a'i effeithiau ar eu hiechyd. Mae dietegwyr yn trosi gwyddoniaeth maeth yn wybodaeth bob dydd am fwyd.
Maen nhw'n helpu pobl i wneud penderfyniadau gwell am yr hyn maen nhw'n ei fwyta a'i yfed. Maent hefyd yn cynorthwyo pobl sy'n gorfod newid eu diet oherwydd alergedd neu gyflwr iechyd arall.
Mae dietegwyr yn gweithio gydag unigolion o bob oed i drafod eu hanghenion dietegol penodol. Mae rhai dietegwyr yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol a chydag elusennau a sefydliadau eraill i hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau i atal problemau sy'n gysylltiedig â maeth.
Mae dietegwyr yn gweithio gyda phobl iach a sâl mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal, fel ysbytai, cartrefi gofal a chlinigau. Mae rhai dietegwyr yn arbenigo mewn iechyd meddwl, anableddau dysgu, y gymuned, lleoliadau acíwt ac iechyd y cyhoedd.
Maent yn gweithio fel rhan o Dîm Amlddisgyblaethol, er enghraifft gyda meddygon teulu a nyrsys, i drin cyflyrau cymhleth fel diabetes, alergedd bwyd, syndrom IBS ac anhwylderau bwyta, i enwi ond ychydig.
Mewn lleoliadau iechyd a gofal fel ysbytai a chartrefi gofal maent yn darparu cyngor i arlwywyr i sicrhau gofal maethol yr holl gleientiaid. Maent hefyd yn cynllunio ac yn gweithredu rhaglenni iechyd cyhoeddus i hybu iechyd ac atal afiechydon sy'n gysylltiedig â maeth.
Rôl allweddol dietegydd yw hyfforddi ac addysgu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill. Maent hefyd yn cynghori ar ddeiet er mwyn osgoi'r sgîl-effeithiau a'r rhyngweithio rhwng meddyginiaethau.