CAREERSVILLE

Syniadau Anwir Am Ddieteg

Alexandra Rees - Deietegydd Cymunedol

Alexandra (Lexi) Rees - Community Dietitian

Alexandra (Lexi) Rees - Community Dietitian

Yr un peth yw dietegwyr a maethegwyr

Dietegwyr yw’r unig weithwyr proffesiynol maeth i gael eu rheoleiddio gan y gyfraith. Rhaid i ni fod yn aelodau o’r Cyngor Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal a chadw at eu cod ymddygiad. Mae maethegwyr yn gymwys i ddarparu gwybodaeth am fwyd a bwyta’n iach ac mae cofrestr maethegydd cymwys. Fodd bynnag, gan nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan y gyfraith, gallai unrhyw un alw eu hunain yn faethegydd heb unrhyw hyfforddiant na chymwysterau mewn maeth. 

Mae dietegwyr yn dweud wrth bobl sut i golli pwysau

Nid yr heddlu bwyd yn unig ydyn ni! Fel Dietegwyr rydym yn gweithio mewn ystod eang o arbenigeddau. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli pwysau, pediatreg, clefyd y siwgr, niwroleg, iechyd y cyhoedd (darparu cyngor a hyfforddiant diet i weithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill am faeth), gofal dwys, gastroenteroleg, oedolion hŷn a gyda thimau chwaraeon ac athletwyr. 

Mae hyn yn golygu ein bod yn defnyddio ein gwybodaeth a’n sgiliau i helpu pobl i wneud newidiadau ymarferol i wella eu diet a’u hiechyd yn gyffredinol. I rai pobl a welwn, bydd hyn yn golygu eu cefnogi i golli pwysau ond i bobl eraill efallai y bydd angen iddynt fagu pwysau neu wneud newidiadau i osgoi rhai bwydydd. Ein nod cyffredinol bob amser yw cefnogi pobl i fyw bywydau mor iach â phosibl sy’n cael eu hysgogi gan faeth da! 

Mae dietegwyr yn gweithio mewn ysbytai yn bennaf

Er y gall llawer o ddietegwyr weithio’n bennaf ar wardiau ysbytai i helpu i gefnogi pobl â’u maeth pan fyddant yn ddifrifol wael, rydym hefyd yn gweithio mewn llawer o leoliadau eraill i mewn ac allan o’r GIG! Yn y GIG, rydym yn gweithio mewn clinigau meddygon teulu, clinigau cleifion allanol, cartrefi gofal ac ymweliadau â chartrefi pobl. Y tu allan i’r GIG, rydym yn gweithio gyda chwmnïau mawr i helpu gyda datblygu cynnyrch a hyrwyddo bwyta’n iach, yn annibynnol gyda’n clinigau a’n grwpiau cleifion ein hunain, timau chwaraeon, darlithio neu addysgu. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r cyfryngau neu mae gennym ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ein hunain i helpu i chwalu chwedlau am gynlluniau bwyta mympwyol a maeth y mae defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol eraill heb ein gwybodaeth arbenigol yn eu postio!