Fel Arweinydd Deietetig Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, rydw i’n arwain ac yn rheoli gweithrediadau tîm o ddeietegwyr a staff cymorth cymwys. Rydw i wedi gweithio yn y maes arbenigol hwn o ddeieteg ers 13 mlynedd ac rydym ni’n ffodus o fod wedi’n lleoli mewn parc iechyd cymunedol pwrpasol; sy’n cyfuno iechyd a gofal cymdeithasol dan yr unto.
Fe ymunais i â Thîm GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) Cymru fel deietegydd iechyd y cyhoedd oherwydd fe allwn i weld y gwahaniaeth y gallai'r gwaith hwn ei wneud i unigolion, cymunedau a theuluoedd.
Does dim y fath beth â diwrnod nodweddiadol mewn deieteg iechyd y cyhoedd, gan nad ydy’r naill ddiwrnod a’r llall byth yr un fath. Mae dieteteg iechyd y cyhoedd yn cynnig llwybr gyrfa amrywiol a heriol, sy'n rhoi boddhad mawr.
Ni fyddaf i fyth yn blino ar weld plant ac oedolion yn tyfu ac yn datblygu o ganlyniad uniongyrchol i'n hyfforddiant neu glywed straeon personol gan aelodau o'r gymuned ynghylch gwelliannau i’w ffordd o fyw a gwir effaith y gwaith rydym ni’n ei wneud. Yn aml iawn, mae cymaint o ganlyniadau cadarnhaol annisgwyl yn sgil ein gwaith, fel mynediad i gyflogaeth, ochr yn ochr â chanlyniadau iechyd gwell a rheolaeth well dros glefydau cronig.
Rhan orau fy swydd yw gweld buddion ein gwaith yn dwyn ffrwyth o fewn ein grwpiau mwyaf bregus i niwed yn ein cymdeithas.
Fel myfyriwr chweched dosbarth, fe wnaeth fy athrawes Economeg y Cartref wahodd deietegydd o'n Bwrdd Iechyd lleol i siarad â ni am y proffesiwn. Yn ystod yr ymweliad hwn, fe wnaeth hi gyfaddef wrthyf fi ei bod hi wastad wedi bod eisiau dod yn ddeietegydd pe na bai hi wedi cymhwyso fel athrawes. Fe wnaeth hyn, ynghyd â gwaeledd fy nhad a mewnbwn rheolaidd gan ddeietegydd, ennyn fy niddordeb yn y proffesiwn ac es i ymlaen i astudio BSc (Gofal Cefnogol Gorau) mewn Maetheg a Deieteg ym Mhrifysgol Athrofâu Cymru, Caerdydd.
Mae angen i chi fod yn weithgar, trefnus, yn meddu ar sgiliau rheoli amser da ac yn gallu gweithio'n dda yn ymreolaethol ac yn rhan o nifer o dimau amlddisgyblaethol gwahanol ac amrywiol.
Buaswn yn argymell gyrfa mewn deieteg iechyd y cyhoedd oherwydd daw pob dydd â’i heriau a’i wobrwyon newydd; ond - yn bwysicaf oll - mae'r gwaith rydym ni’n ei wneud yn cael effaith wirioneddol ar ein poblogaeth leol, yn ogystal ag ar wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd.
Mae'n faes gwerth chweil i weithio ynddo, yn darparu ymdeimlad gwirioneddol o falchder a chyflawniad wrth hyrwyddo ffocws ar ansawdd a chanlyniadau i'n gwaith ein hunain a gwaith eraill yn y gymuned.
Mae deieteg iechyd y cyhoedd yn rhoi cyfle i herio’ch greddf greadigol a meddwl y tu allan i'r bocs i sicrhau’n bod yn ymwreiddio iechyd a lles y boblogaeth ym mhopeth a wnawn ac yn canolbwyntio ar atal gwaeleddau ar gyfer y rhai mwyaf bregus i niwed yn ein cymdeithas.
O fewn deieteg iechyd y cyhoedd, rydym ni’n ymdrin ag amrywiaeth o feysydd arbenigol megis maetheg blynyddoedd cynnar, rheoli pwysau, cyn-ddiabetes, diffyg maeth, gordewdra mamau, addysg, datblygu polisi, ymchwil, ac aiff y rhestr yn ei blaen.