Gwaith y dydd wedi darfod am ddiwrnod arall, beth ddylwn i ei wneud nawr? Mae'n teimlo mor rhyfedd cyrraedd adref a pheidio â gorfod gweithio ar aseiniad neu adolygu ar gyfer arholiad. Fe wnaeth y dair blynedd hynny wibio heibio...

Nokhuthula Nyoni
Helo, fy enw i yw Nokhuthula ac mi raddais i yn 2020 gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Maetheg Ddynol a Deieteg o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Maetheg Ddynol a Deieteteg yn gwrs tair blynedd a all arwain at swydd yn y GIG yn gweithio fel Deietegydd Cofrestredig.
Mae rôl Deietegydd yn amrywiol; o faes chwaraeon, i bractis preifat, i weithio mewn ysbyty.Mae’r amrywiaeth a ddaeth yn ei sgil drwy gydol y cwrs yn un o'r pethau mwyaf heriol i mi ei wneud erioed, ond yn sicr y peth mwyaf gwerthfawr. Roedd yr amser a dreuliais i ar y rhaglen Maetheg Ddynol a Deieteg ym Met Caerdydd, er yn heriol, yn bleserus.
I mi, y rhan orau o'r rhaglen oedd y tri lleoliad clinigol, roedd fy lleoliad cyntaf a'r ail ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, tra’r oedd fy lleoliad terfynol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Roedd y lleoliadau yn fy ngalluogi i gyfuno'r holl theori yr oeddwn wedi’i dysgu a'i rhoi ar waith; o'r modiwl Biocemeg a Ffisioleg Faethol a wnaeth fy nghynorthwyo o ran fy nealltwriaeth o lwybrau metabolig, i'r modiwl Anatomeg a Ffisioleg Ddynol a wnaeth fy helpu i ddatblygu adnabyddiaeth o’r llwybr Gastroberfeddol (GI) a sut mae'n gweithio. Mae'r adnabyddiaeth hon yn arbennig o ddefnyddiol gyda chleifion sydd wedi cael ileostomi, colostomi neu jejwnostomi gan ei fod yn helpu i fesur y tebygolrwydd o ddiffygion microfaethynnau. Fe wnaeth yr adnabyddiaeth hon gydblethu’n dda gyda’r modiwlau eraill y gwnes i eu hastudio ar y cwrs megis Deieteg Arbenigol ac Egwyddorion Deieteg. Roedd y lleoliad yn fy mharatoi’n drylwyr ar gyfer byd cyflogaeth.
Tra’r oeddwn i ar Leoliad Tri ym mis Mawrth 2020, fe lwyddais i i gael fy swydd gyntaf fel Deietegydd Band 5 — pedwar mis cyn graddio — yn Ysbyty Llwynhelyg, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn harddwch Sir Benfro.
Wrth ysgrifennu'r blog hwn, rydw i newydd orffen fy nhrydedd wythnos fel dietegydd ac rydw i wrth fy modd; mae gen i bum ward wahanol a dydy’r naill ddiwrnod a’r llall byth yr un fath. Rydw i’n dechrau gweithio am 8:30yb ond rydw i’n tueddu i gyrraedd yno tua 8:15yb i ymgartrefu a gwneud paned o de. Wedyn rydw i’n edrych trwy gardiau cofnod cleifion a biocemeg gwaed y cleifion mewnol sydd i'w gweld y diwrnod hwnnw, sy'n cynnwys adolygiadau ac atgyfeiriadau newydd. Ar ôl edrych trwy’r rhestr gleifion yn drylwyr a gwneud nodiadau, rydw i’n anelu am y wardiau. Gall asesiad claf newydd gymryd hyd at 45 munud a gall adolygiad gymryd 20-30 munud.
Rydw i’n hynod angerddol dros y proffesiwn hwn, mae'n un yr ydw i’n ei garu, rydw i’n deffro bob bore yn edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth.
Health Education and Improvement Wales (HEIW)
Ty Dysgu,
Cefn Coed,
Nantgarw,
CF15 7QQ
03300 585002
nhswalescareers@wales.nhs.uk