CAREERSVILLE

Cyflwyniad I: Therapi Galwedigaethol

Mae therapyddion galwedigaethol yn helpu pobl o bob oed i ddod o hyd i ffyrdd o gyflawni'r tasgau a'r gweithgareddau sy'n bwysig iddynt. Yna byddant yn datblygu cynllun gyda'r person, a'i ofalwyr os yw'n briodol. Mae therapyddion galwedigaethol yn rhoi cymorth i bobl y mae eu hiechyd yn eu hatal rhag gwneud y gweithgareddau sydd o bwys iddynt. Gall therapydd galwedigaethol nodi cryfderau ac anawsterau a allai fod gennych mewn bywyd bob dydd, megis gwisgo, coginio, cyrraedd y siopau, neu aros yn y gwaith a bydd yn eich helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol.

Defnyddir therapi galwedigaethol hefyd fel rhan o raglen adsefydlu ar ôl damwain, salwch neu lawdriniaeth i'ch helpu i wella ac adennill cymaint o annibyniaeth â phosibl.

Os ydych chi eisiau gweithio fel Therapydd Galwedigaethol, bydd angen i chi gwblhau gradd. Yn ogystal, pan fyddwch wedi cymhwyso bydd angen i chi gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd.

Dolenni defnyddiol