Mae fy rôl yn berffaith ar gyfer rhywun sydd â diddordeb mewn datrys problemau, yn mwynhau cyfathrebu â phobl ac yn frwdfrydig i barhau i ddysgu.
Fy rôl gyntaf fel Optometrydd oedd gweithio i GIG Lloegr fel Optometrydd cyn-gofrestru. Roedd cyn-gofrestru yn flwyddyn ar ôl cwblhau fy ngradd Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bu’n flwyddyn o hyfforddiant, profiad ymarferol a chymhwyso pethau yr wyf wedi’u dysgu yn fy ngradd i ymarfer. Ar ôl bod wrth fy modd â’r flwyddyn cyn-gofrestru hon, penderfynais fod optometreg ysbyty yn rhywbeth yr hoffwn barhau i’w wneud ac ymunais â GIG Cymru ar ôl symud yn ôl i Gymru.
Ers hynny, bu llawer iawn o gyfleoedd dysgu sydd wedi fy ngalluogi i uwchsgilio mewn meysydd y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddynt. Rwyf wedi cwblhau nifer o gymwysterau ôl-raddedig sydd wedi ehangu fy ngyrfa.
Mae fy rôl bresennol fel optometrydd arbenigol yn cynnwys darparu archwiliadau llygaid cynhwysfawr i bobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio i wasanaeth llygaid yr ysbyty. Yn ogystal ag optometryddion eraill, rwy’n gweithio’n agos gyda sbectrwm eang o weithwyr proffesiynol eraill, yn arbennig, gydag offthalmolegwyr ac orthoptwyr.
Mae diwrnod gwaith arferol yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau clinigol hynod ddiddorol. Gall hyn gynnwys archwilio, gwneud diagnosis a rheoli gwahanol gyflyrau llygaid, gosod lensys cyffwrdd, mesur presgripsiynau sbectol, dehongli astudiaethau delweddu a threfnu atgyfeiriad ymlaen os oes angen.
Mae'r cleifion rwy'n eu gweld yn amrywio o rai misoedd oed i 90+ oed. Yn ogystal â gweithio gyda phobl, rwy'n defnyddio amrywiaeth o dechnolegau ac offer modern, gan gynnwys lensys a pheiriannau arbennig i ddelweddu blaen a chefn llygaid cleifion.
Gan weithio fel optometrydd ysbyty, mae goresgyn heriau’n rhoi boddhad mawr i mi. Rwy'n tyfu'n barhaus yn broffesiynol ac yn bersonol.
Y peth rwy’n ei fwynhau fwyaf am fy swydd yw gallu gwella ansawdd bywyd person trwy eu helpu gyda’u problemau golwg. Weithiau, rydw i hefyd yn canfod problemau posibl gydag iechyd cyffredinol person, gan fod llawer o gyflyrau systemig sy'n gysylltiedig â'r llygaid.
Rwyf hefyd yn mwynhau gweithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill, gan rannu ein syniadau a'n meddyliau i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau.
Mae fy rôl yn berffaith ar gyfer rhywun sydd â diddordeb mewn datrys problemau, yn mwynhau cyfathrebu â phobl ac yn frwdfrydig i barhau i ddysgu.